Cefnogaeth ei rieni, a anogodd y dyn 25 oed i edrych ar yr hyn oedd gan Goleg Cambria i’w gynnig, ac o ganlyniad treuliodd y blynyddoedd nesaf yn dilyn gyrfa mewn ecoleg a chadwraeth.
Yn 16 oed, tybiodd Adem y byddai’n dod o hyd i swydd fel gweithiwr llaw neu beiriannydd “fel yr oedd y rhan fwyaf o’i ffrindiau” yn bwriadu ei wneud.
Penderfynodd beidio â gwneud hynny a chredai mai “dilyn ei galon” oedd “y penderfyniad gorau a wnes i erioed” wrth ddechrau Diploma Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid ar safle Llaneurgain Cambria.
“Wnes i ddim gwneud fy ngorau yn yr ysgol, mae gen i ddyslecsia, ond efallai na wnes i drio mor galed â hynny chwaith,” meddai Adem, o Sandycroft.
“Roedd fy rhieni’n gefnogol iawn ac yn gwybod ‘mod i’n wastad wedi caru anifeiliaid, felly ar ôl iddyn nhw weld fod ‘na ddiwrnod agored yn Llaneurgain, fe ddaethon ni draw i gael golwg.
“Cyn gynted ag y gwelais i’r Ganolfan Anifeiliaid Bach a phrofi’r awyrgylch cyffredinol, roeddwn i’n gwybod mai dyma’r lle i mi a dydw i heb edrych yn ôl.”
Ar ôl cwblhau Lefelau 1 i 3 mewn Gofal Anifeiliaid, aeth Adem ymlaen i addysg uwch gyda Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5 mewn Rheoli Anifeiliaid, gan gynnwys cwrs blwyddyn atodol ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae ei draethawd hir wedi’i gyflwyno erbyn hyn ac mae’n edrych ymlaen at fynd i fyd gwaith, tra hefyd yn ystyried mentro ymhellach i’r byd academaidd.
“O’r diwrnod cyntaf yn Llaneurgain, fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr gan roi fy nghalon ac enaid ynddo,” meddai Adem.
“Er nad oeddwn i erioed wedi bod yn hyderus iawn yn yr ystafell ddosbarth, fe es i ymlaen i gwblhau fy HND ac rwy’n ystyried addysg ôl-raddedig, felly newidiodd Llaneurgain fy agwedd tuag at ddysgu yn llwyr.
“Fe wnaeth y darlithwyr fy helpu i ar hyd y daith, yn enwedig pan oeddwn i’n amau fy hun, ac er mai ar hap y des i ar draws y sector yma, mae’n debyg mai dyna oedd i fod.”
Ychwanegodd: “Bydd y bennod nesaf yn fy mywyd yn ddiddorol, rwy’n gweld fy nyfodol ym maes cadwraeth, fel y cadarnhaodd fy nhraethawd hir gan i mi fwynhau astudio ac ymchwilio i infertebratau (creaduriaid heb asgwrn cefn) mewn dolydd a gerddi, bod yn yr awyr agored ac yn un â natur.
“Rwy’n edrych ymlaen at fentro i faes ecoleg a rhoi cynnig ar amrywiaeth o bethau gwahanol, yn enwedig ym maes entomoleg ac infertebratau, gan gymysgu mwy o ddysgu gyda gwaith – dyna’r freuddwyd ar hyn o bryd.
“Mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw, ac rwy’n diolch i Cambria am hynny.”
Dywedodd Sadie Thackaberry, Arweinydd Rhaglen y cwrs HND mewn Rheoli Anifeiliaid ac arweinydd Cwricwlwm Addysg Bellach mewn Gofal Anifeiliaid, fod Adem wedi bod yn “ysbrydoliaeth” nid yn unig i’r myfyrwyr ond hefyd i staff y coleg.
“Mae ei agwedd wedi bod yn anhygoel, gan weithio’n galed i ddal i wella bob blwyddyn, a dangos gofal a brwdfrydedd gwirioneddol yn ei astudiaethau a thros gadwraeth a’r blaned,” meddai Sadie.
“Does gen i ddim amheuaeth y bydd Adem yn mynd ymlaen i gael gyrfa wych ym meth bynnag y bydd yn ei ddewis, ac mae’n ei haeddu am yr ymroddiad, y ffocws, yr ymdrech a’r dyfalbarhad pur y mae wedi’u dangos yn ystod ei amser yn Llaneurgain.
“Byddwn yn gweld eisiau Adem ac yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”
Mae HND Cambria mewn Rheoli Anifeiliaid yn cwmpasu ystod o bynciau, o Iechyd a Lles Anifeiliaid, Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid, i Egwyddorion Ecolegol, Anthrosŵoleg, Cadwraeth Bywyd Gwyllt, a Moeseg ac Ymgynghori.