Cwrs Lefel 2 mewn Gofal Plant, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00296
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch chi i weithio ym maes gofal plant. Byddwch chi’n archwilio'r egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i arferion gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Mae'r pynciau allweddol sy’n cael eu trafod yn cynnwys:

- Cefnogi ymarfer craidd mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
- Cefnogi chwarae, dysgu, twf a datblygiad
- Cefnogi maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar
- Ymateb i arwyddion o salwch a phlâu/haint posibl
- Dechrau deall datblygiad plant
- Diogelu plant

Ochr yn ochr â’r cymhwyster Craidd, byddwch chi hefyd yn cwblhau cwrs Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster Ymarfer a Damcaniaeth, sy'n darparu trwydded i ymarfer ar gyfer gweithio gyda phlant.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg, NEU gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Rhaid i chi allu dangos potensial i weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn lleoliadau gofal plant.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.

Mae’r cymhwyster craidd yn cynnwys asesiad wedi’i farcio’n allanol gydag arholiad amlddewis. Ar gyfer y cymhwyster Ymarfer a Theori, mae arholiad wedi’i farcio’n allanol y gallwch chi ei sefyll ym mis Ionawr neu fis Mai. I ennill eich trwydded Lefel 2 i ymarfer, byddwch chi’n cael eich asesu ar eich lleoliad gwaith gorfodol, lle byddwch chi’n cwblhau 280 awr drwy gydol y flwyddyn gydag asesydd dynodedig.


Ochr yn ochr â’r cymhwyster Craidd, byddwch chi’n cwblhau cwrs Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Damcaniaeth, byddwch chi’n barod ar gyfer cyflogaeth neu gallwch chi symud ymlaen i Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Damcaniaeth, a all arwain at radd prifysgol.

Mae rolau swyddi posibl yn cynnwys:
– Cynorthwyydd Cylch Chwarae
– Cynorthwyydd Meithrin
– Cynorthwyydd Crèche
– Gweithiwr Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost