Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP87944 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs amser llawn 2 flynedd. Byddwch yn cwblhau 90 credyd ym Mlwyddyn 1 ac yn ennill cymhwyster annibynnol. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus byddwch yn symud ymlaen i Flwyddyn 2 i ennill y Diploma Estynedig llawn. |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i adael eich dylanwad ar y byd ffasiwn ddeinamig?
Gall y rhaglen gyffrous ddwy flynedd hon - Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Busnes Ffasiwn a Manwerthu eich arwain at yrfa gyffrous mewn diwydiant sy'n esblygu ac yn ysbrydoli'n gyson! Os ydych chi'n breuddwydio am weithio y tu ôl i'r llenni mewn amgylchedd manwerthu prysur, llunio brandiau neu hyd yn oed ddod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol yna mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
Beth fyddwch chi'n ei brofi?
Paratowch ar gyfer taith ddysgu y byddwch yn ymgolli ynddo’n llwyr ac sy'n mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Byddwch yn edrych yn fanwl ar y sgiliau, gwybodaeth a'r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen i ffynnu yn y busnes ffasiwn a'r sector manwerthu. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau personol a phroffesiynol hanfodol gan gynnwys cyflwyno, rheoli amser, gwaith tîm, trefnu a chyfathrebu, sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant hwn sy’n newid drwy’r adeg.
Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr yn cynnwys meysydd allweddol fel:
- Rheoli Ffasiwn a Marchnata
- Gweithrediadau Siop
- Prynu a Gwerthu
- Steilio
- Marchnata Gweledol
- Cynhyrchu a Chadwyni Cyflenwi
- Dyfodol Ffasiwn yn cynnwys Cynaliadwyedd.
Byddwch chi'n dysgu creu atebion arloesol ar gyfer yr amgylchedd gwerthu sy'n newid yn barhaus gan ennill cipolwg ar arferion busnes ffasiwn modern, rolau amrywiol o fewn y sector a strategaethau busnes sylfaenol. Oeddech chi'n gwybod bod y sector manwerthu ffasiwn yn cyfrif am 75% o'r holl swyddi sy'n gysylltiedig â ffasiwn gyda 414,000 o bobl yn cael eu cyflogi ym maes manwerthu dillad yn unig? Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i fod yn rhan o'r gweithlu bywiog hwnnw!
I orffen byddwch yn defnyddio'ch holl sgiliau a gwybodaeth newydd i greu a chyflwyno prosiect personol sy'n gysylltiedig â busnes ffasiwn a manwerthu. Mae pob uned yn orfodol gan sicrhau eich bod yn ennill cymhwyster trylwyr a chyflawn.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf) a Mathemateg. NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gyrchu cwrs lefel uwch.

Bydd eich dysgu yn cael ei asesu trwy aseiniadau diddorol sy’n seiliedig ar y diwydiant. Byddwch yn creu cyflwyniadau diddorol o’ch dyluniadau a’ch cynigion ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion. Mae’r ymagwedd ymarferol hon yn sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer heriau go iawn y byd ffasiwn.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Lefel 3 hwn yn llwyddiannus byddwch wedi eich paratoi’n dda ar gyfer addysg uwch ac yn barod i ddilyn astudiaethau pellach yn y brifysgol. Fel arall mae llawer o’n dysgwyr llwyddiannus yn defnyddio’r cymhwyster hwn fel man dechrau cadarn i ddilyn gyrfaoedd cyffrous o fewn y diwydiannau busnes creadigol fel:
● Prynnu a marsiandïo ffasiwn
● Cysylltiadau cyhoeddus ffasiwn
● Rheoli brand
● Marchnata a hyrwyddo
● Marchnata gweledol a Brandio
● Rheoli ffasiwn/manwerthu
● Cydlynydd/cymhorthydd cyfryngau cymdeithasol
● Dylanwadwr steil.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu rhestr o offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025