Diploma Lefel 3 mewn Datblygu Gemau a TG (Uwch)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP51292
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd lawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i weithio gyda chynnyrch sydd ar flaen y gad a thecholeg sy’n newid yn barhaus yn y sector sy’n tyfu fwyaf cyflym yn y byd?

Mae astudio cwrs Datblygu Gemau a TG yng Ngholeg Cambria yn eich rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i lwyddo yn yr amgylchedd digidol hwn ac i wneud y mwyaf o’ch potensial.

Mae cyfrifiaduron yn rhan o bob agwedd o’n byd a gallai gyrfa yn y diwydiant arloesol hwn sy'n symud yn gyflym fod yr union beth i chi. Bydd y cwrs hwn yn eich cyfarparu gyda’r cymysgedd gywir o sgiliau i ffynnu yn eich gyrfa gan sicrhau fod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddo.

Byddwch yn dysgu mewn amgylchedd drochol ac yn cymryd rhan yn llawn mewn amryw o agweddau o dechnolegau Datblygu Gemau a TG Digidol. Byddwch yn ennill gwybodaeth a phrofiad yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy i symud ymlaen at brifysgol neu yrfa mewn amryw o feysydd gwahanol.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Gyflawni
Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Datblygu Gemau a TG wedi'i gynllunio i wneud y mwyaf o'ch potensial a'ch rhagolygon cyflogadwyedd. Mae wedi'i addasu i wella'ch sgiliau digidol a rhoi'r cyfle gorau i chi allu sicrhau prentisiaeth neu swydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben.

Cwrs dwy flynedd ydy hwn a fydd yn arwain at ennill Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn TG.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:

Mae'r prif feysydd y byddwch chi'n dysgu amdanynt ar y cwrs hwn yn cynnwys:

Systemau Technoleg Gwybodaeth
Creu Systemau i Reoli Gwybodaeth
Defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes
Rhaglennu
Datblygu Gwefannau
Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
Rheoli Prosiectau TG
Seiberddiogelwch a Rheoli Achosion
Darpariaeth Gwasanaethau TG
Mentergarwch mewn TG
Graffeg Ddigidol 2D a 3D
Animeiddiadau ac Effeithiau Digidol
Datblygu Apiau Ffonau Symudol

Yn ystod ail flwyddyn eich cymhwyster bydd gennych chi gyfle i ddewis gwneud cais i brifysgol drwy broses UCAS neu ymuno â'r rhaglen TG Uwch.

Bydd y rhaglen hon yn rhoi sgiliau a chefnogaeth ychwanegol i chi gyda’r nod o’ch helpu chi i symud ymlaen at brentisiaeth neu swydd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu i roi’r hyder i chi y gallwch chi gymhwyso eich gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle a bod gennych chi’r sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch.

Mae’r ystod o asesiadau galwedigaethol – ymarferol ac ysgrifenedig – yn golygu y gallwch chi ddangos eich dysgu a’ch cyflawniadau yn y modd mwyaf effeithiol wrth i chi gymryd eich cam nesaf, boed hynny’n geisiadau ar gyfer cyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Mae cyfanswm o bedwar arholiad/tasg sy’n cael eu hasesu’n allanol ac sy’n cael eu sefyll dros y ddwy flynedd lawn.
Mae’r rhai sy’n cyflawni Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC llawn dwy flynedd mewn TG yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS, gan roi dewis eang o opsiynau dilyniant i fyfyrwyr. Gallwch chi symud ymlaen at brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth a pharhau i ddatblygu eich gyrfa ym maes TG…pwy a ŵyr ble ddaw i ben?

Mae rhai cyfleoedd posibl ym maes TG yn cynnwys:

Dylunydd Gemau
Dylunydd Gwefannau
Datrysiadau Technoleg Ddigidol
Technegydd Cymorth Systemau
Technegydd Cymorth TG
Dadansoddwr Data
Rheoli TG ar gyfer Busnes
Ymarferydd Technoleg Ddigidol Ddatblygol
Dylunydd Meddalwedd
Cyfrifiadura Busnes ac Entrepreneuriaeth
Dadansoddwr Systemau
Lluniwr Apiau
Rheolwr Systemau Gwybodaeth
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost