Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Technolegau Digidol a TG (Uwchradd)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00339
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Eich Dyfodol mewn Technolegau Digidol yn Dechrau Yma!

Ydych chi'n barod i gymryd naid i'r sector sy'n tyfu cyflymaf yn y byd? Mae astudio cwrs TG yng Ngholeg Cambria yn eich rhoi chi yn y sefyllfa orau bosib i fanteisio i’r eithaf ar yr amgylchedd digidol hwn ac ar eich potensial.

Mae cyfrifiaduron ym mhobman, a gallai gyrfa yn y diwydiant arloesol hwn, sy'n symud yn gyflym, fod yr union beth i chi. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r cydbwysedd cywir o sgiliau i chi er mwyn i chi ddatblygu eich gyrfa, gan sicrhau eich bod yn ennill y cyfuniad gorau o sgiliau cyffredinol i lwyddo.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n ei Gyflawni
Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Technolegau Digidol wedi'i gynllunio i wneud y mwyaf o'ch potensial a'ch rhagolygon cyflogadwyedd. Mae wedi'i addasu i wella'ch sgiliau digidol a rhoi'r cyfle gorau i chi allu sicrhau prentisiaeth neu swydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben.

Cwrs dwy flynedd ydy hwn a fydd yn arwain at ennill Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn TG.


Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Byddwch chi’n archwilio ystod eang o feysydd cyffrous a phoblogaidd, gan gynnwys:
Systemau Technoleg Gwybodaeth
Creu Systemau i Reoli Gwybodaeth
Defnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes
Rhaglennu
Datblygu Gwefannau
Datblygu Apiau Ffonau Symudol
Rheoli Prosiectau TG
Seiberddiogelwch a Rheoli Achosion
Darpariaeth Gwasanaethau TG
Modelu Data
Data Mawr a Dadansoddeg Busnes
Storio yn y Cwmwl ac Offer Cydweithio
Rhyngrwyd Pethau


Gwella Eich Cyflogadwyedd
Mae ail flwyddyn y cwrs yn canolbwyntio ar y rhaglen TG Uwch, gan roi sgiliau a chefnogaeth ychwanegol i chi er mwyn eich helpu chi i symud ymlaen i brentisiaeth neu swydd. Mae'r cwrs hwn wedi’i gyfoethogi i gynnig pwyslais ychwanegol ar sgiliau cyflogadwyedd a hyfforddiant, gan gynnwys:

Profiad gwaith
Gweithgareddau dynwared amgylchedd swydd yn y dosbarth
Arweiniad ar wisg addas ar gyfer gwaith
Gweithio mewn grwpiau prosiect
Gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr
Meysydd tebyg eraill o sgiliau cyflogadwyedd

Cymwysterau Ychwanegol

Bydd cyfle gennych chi hefyd i ennill y cymwysterau ychwanegol canlynol:

Academi ‘Cloud Foundations’ Gwasanaethau Gwe Amazon (AWS)
Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af), NEU Wedi cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus sy’n gorfod cynnwys cyflawniad rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu i roi’r hyder i chi y gallwch chi gymhwyso eich gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle a bod gennych chi’r sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch. Mae’r ystod o asesiadau galwedigaethol – ymarferol ac ysgrifenedig – yn golygu y gallwch chi ddangos eich dysgu a’ch cyflawniadau yn y modd mwyaf effeithiol wrth i chi gymryd eich cam nesaf, boed hynny’n geisiadau ar gyfer cyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Mae cyfanswm o bedwar arholiad/tasg sy’n cael eu hasesu’n allanol, sydd wedi’u gwasgaru dros y ddwy flynedd lawn.
Mae’r rhai sy’n cyflawni Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC dwy flynedd llawn mewn TG yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS, gan roi dewis eang o opsiynau dilyniant i fyfyrwyr.
Gallwch chi symud ymlaen i brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth a pharhau i ddatblygu eich gyrfa ym maes TG…pwy a ŵyr ble ddaw i ben?

Mae rhai cyfleoedd posibl ym maes TG yn cynnwys:
Dylunydd Gwefannau
Datrysiadau Technoleg Ddigidol
Technegydd Cymorth Systemau
Arbenigwr Seiberddiogelwch
Technegydd Cymorth TG
Dadansoddwr Data
Rheoli TG ar gyfer Busnes
Ymarferydd Technoleg Ddigidol Ddatblygol
Peiriannydd Meddalwedd
Cyfrifiadura Busnes ac Entrepreneuriaeth
Dadansoddwr Systemau
Lluniwr Apiau
Rheolwr Systemau Gwybodaeth
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost