Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Ymchwilio Fforensig a Throseddol
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01530 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser. Caiff y Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Ymchwilio Fforensig a Throseddol ei gyflawni erbyn diwedd yr ail flwyddyn o astudio. Mae’r diploma hwn gyfwerth â 3 pwnc safon uwch. Bydd dysgwyr yn anelu at gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ochr yn ochr â’u cwrs BTEC sy’n gwrs sy’n cyfateb i Lefel A. Felly bydd dysgwyr llwyddiannus yn cyflawni’r hyn sy’n cyfateb i 4 Lefel A, gan roi’r pwyntiau UCAS sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen i’r brifysgol. |
Adran | Gwyddoniaeth |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Ymchwiliad Fforensig a Throseddol yng Ngholeg Cambria yn rhaglen llawn amser 2 flynedd sydd wedi'i chynllunio i fod yn gyfwerth â 3 Lefel A. Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o wyddoniaeth fforensig, seicoleg fforensig, a throseddeg, fel y maen nhw’n berthnasol i'r system gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig.
Cynnwys y Cwrs Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 13 uned, sy'n edrych ar droseddeg ac arferion fforensig trwy gyd-destunau a senarios bywyd go iawn. Mae hefyd yn adeiladu sylfaen gadarn mewn egwyddorion gwyddonol craidd, yn debyg i Ffiseg, Cemeg a Bioleg Safon Uwch.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch chi’n astudio chwe uned:
* Uned 1: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth 1 (90 ODA)*
* Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (90 ODA)
* Uned 3: Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol (120 ODA)**
* Uned 4: Gweithdrefnau Ymchwilio Fforensig ar waith (90 ODA)
* Uned 8: Ffisioleg Systemau'r Corff Dynol (60 ODA)
* Uned 13: Geneteg Fforensig (60 ODA)
Bydd eich ail flwyddyn yn cynnwys saith uned ychwanegol:
* Uned 5: Cymwysiadau Troseddeg (120 ODA)*
* Uned 6: Gweithdrefnau Ymchwilio Troseddol ar waith (90 ODA)
* Uned 7: Cymwysiadau Seicoleg Fforensig a Throseddol (120 ODA)**
* Uned 9: Fforenseg Amgylcheddol (60 ODA)
* Uned 14: Anthropoleg ac Archaeoleg Fforensig (60 ODA)
* Uned 15: Dadansoddiad Cemegol Ymarferol (60 ODA)
* Uned 16: Microbioleg a Thechnegau Microbiolegol (60 ODA)
Caiff unedau sydd wedi'u marcio â seren (*) eu hasesu drwy arholiad ysgrifenedig sydd wedi’u gosod yn allanol. Mae’r rhai sydd â dwy seren (**) yn dasgau wedi’u gosod yn allanol sydd i gael eu cyflawni yn y coleg. Caiff yr holl unedau eraill eu hasesu drwy dasgau sydd wedi’u gosod yn fewnol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg.
Ynghyd ag un o’r opsiynau Gwyddoniaeth canlynol:
○ TGAU Gwyddoniaeth Ddwbl / Gwyddoniaeth Gymhwysol – CC/44 o leiaf
○ TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg Ar Wahân – CCC/444 o leiaf
○ Cymhwyster BTEC cyntaf mewn Egwyddorion a Chymhwyso Gwyddoniaeth Gymhwysol – o leiaf TT
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.

Mae asesiadau wedi’u cynllunio i brofi eich dealltwriaeth o gynnwys damcaniaethol a sgiliau ymarferol mewn senarios fforensig ac ymchwiliadau troseddol ffug. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i leoliadau troseddau ffug, cloddio beddau bas, adnabod gweddillion ac amcangyfrif amser marwolaeth. Byddwch chi hefyd yn cael eich asesu drwy groesholi yn y llys. Mae asesiadau’n rhai “llyfr agored” ac yn tynnu ar ddeunyddiau dosbarth, gwaith cartref, gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth hunangyfeiriedig. Mae dulliau asesu yn amrywiol ac yn cynnwys prosiectau, tasgau ymarferol a gweithgareddau ymchwil. Bydd pob aseiniad yn cael ei gyflwyno’n electronig trwy Google Classroom.
Mae graddau terfynol y cwrs yn amrywio o D*D*D* i PPP, sy’n cyfateb i A*A*A* i EEE ar Lefel A.

Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi’n cyflawni’r hyn sy’n cyfateb i 3 Lefel A. Byddwch chi hefyd yn anelu at gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, sy’n gwrs sy’n cyfateb i Lefel A. Felly bydd dysgwyr llwyddiannus yn cyflawni’r hyn sy’n cyfateb i 4 Lefel A, gan roi’r pwyntiau UCAS sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen i’r brifysgol.
Dilyniant naturiol ar ôl y cwrs hwn ydy un ai cyrsiau gradd llawn amser neu yn syth i gyflogaeth / prentisiaeth lefel uwch. Mae dros 250 o gyrsiau gradd fforensig yn y DU, yn cynnwys meysydd fel Fforenseg a Throseddeg, Gwyddor Troseddau Casineb, Fforenseg Ddigidol, a chyrsiau fforensig meddygol fel Radioleg Fforensig.
Gyda’r BTEC hwn a gradd briodol, gallech chi weithio fel gwyddonydd fforensig i’r Heddlu, gwasanaethau tollau ac asiantaethau ymchwilio eraill, neu ym maes Patholeg fel Technegydd Patholeg Anatomegol. Mae cyfleoedd hefyd yn bodoli o fewn y GIG, y fyddin, a’r diwydiant fferyllol. Mae llawer o raddedigion hefyd yn symud ymlaen i weithio mewn labordai llywodraeth, meddygol, milwrol a fferyllol.
Er bod cynnydd a ragwelir o 3% mewn swyddi gwag yn y maes dros y pum mlynedd nesaf, gall cystadleuaeth am raddau a swyddi fforensig fod yn uchel oherwydd poblogrwydd y maes. Mae cyflogau dechreuol gweithwyr proffesiynol cymwys gan amlaf oddeutu £20,000, yn codi i £35,000 gyda phrofiad, ac mae cyflogau staff uwch yn aml yn fwy na £45,000.

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu rhestr o offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025