Lefel 4 Cenedlaethol Uwch Flex - Uned 7: Tirfesur, Mesur a Gosod

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18863
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Rhan Amser, Mae’r Prosiect Dylunio Adeiladu Lefel 4 Cenedlaethol Uwch Flex – Uned 1 yn cynnig cyflwyniad gwych i ddysgwyr i Addysg Uwch, gan roi cyfle iddyn nhw gael blas ar sut brofiad ydy bod yn fyfyriwr HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, heb ymrwymiad y rhaglen HNC lawn.

Mae’r uned yn cynnwys o leiaf 10 wythnos o bresenoldeb, gyda sesiynau wythnosol (fel arfer un prynhawn yr wythnos, gydag union fanylion i’w cadarnhau).
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Gwaith Adeiladu Technegol
Dyddiad Dechrau
12 Jan 2026
Dyddiad gorffen
22 May 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster Lefel 4 Cenedlaethol Uwch - Uned 7 Tirfesur, Mesur a Gosod yn cynnig cyfle i ddysgwyr ennill 15 credyd ar Lefel 4, sy’n cael ei ddyfarnu gan Pearson. Gall y credydau hyn gyfrannu tuag at Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) lawn mewn Peirianneg Sifil (cyfanswm o 120 credyd).

Mae astudio trwy HN Flex yn cynnig dull hyblyg o ddysgu i ddysgwyr a chyflogwyr, gan ei wneud yn ffordd wych o gymryd y cam cyntaf i Addysg Uwch. Mae'n rhoi cyfle i ddysgwyr deilwra eu profiad dysgu i weddu i'w diddordebau a'u nodau eu hunain. Mae hyn yn ei gwneud yn ddewis delfrydol i'r rhai sy'n edrych i archwilio potensial addysg uwch, gan ddatblygu gwybodaeth a sgiliau hanfodol yn y maes adeiladu ar yr un pryd â gwneud cynnydd tuag at gymhwyster HNC llawn.

Drwy gwblhau'r uned hon yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael cyfle i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau, gan osod sylfaen gref ar gyfer twf academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol yn y sector adeiladu.

Dull Addysgu:

Mae addysgu ar gyfer yr uned hon yn cyfuno darlithoedd ffurfiol gyda chymorth ymarferol, gan gynnwys gwaith labordy, profi deunyddiau, arolygu gwaith maes, teithiau maes, ymweliadau safle, a gweithgareddau darlunio a dylunio ymarferol.

Rhagor o wybodaeth am yr uned:

Mae tirfesur yn swyddogaeth hanfodol yn y diwydiant adeiladu, gan ddarparu gwasanaethau trwy gydol cylch bywyd prosiect. Mae'n dechrau gyda chasgliadau o ddata cychwynnol i seilio'r dyluniad arno, yna'n symud ymlaen i reolaeth leoliadol ar y broses adeiladu ac yn olaf yn cofnodi'r lleoliad 'fel cafodd ei adeiladu' i’w gymharu â'r dyluniad. Mae hefyd angen monitro effeithiau andwyol i'r amgylchedd cyfagos. Yr agwedd sy'n clymu pob un o'r swyddogaethau hyn ydy'r rhwydwaith rheoli, sy'n ffurfio'r sail ar gyfer pob mesuriad, ac mae hwn yn elfen barhaus trwy'r uned. Yn ymarferol, mae swyddogaethau tirfesur yn cael eu rhannu rhwng y 'Syrfëwr Tir' i sefydlu'r cyfeiriad lleoliadol a darparu data topograffig, a'r 'Peiriannydd Sifil' i ddarparu rheolaeth ar adeiladu (gosodiadau) a monitro. Gan fod yna ddibyniaeth a chyffredinrwydd rhyngddynt, mae'r uned hon yn cwmpasu'r ddau gyd-destun yn gyfartal. Yn yr uned hon, bydd myfyrwyr yn archwilio'r technegau sy’n cael eu defnyddio i sefydlu rheolaethau a chynnal arolygon cychwynnol, gan gynnwys cyfathrebu canlyniadau a dulliau o osod yr amgylchedd adeiledig. Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod a dadansoddi'r ffynonellau o gamgymeriadau a thechnegau lliniaru sy'n cael eu defnyddio mewn agweddau cyffredin ar arolygu.
I ddysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, un o’r canlynol:

● Cymhwyster Lefel 3 (o leiaf 120 credyd / 720 GLH) mewn adeiladu/peirianneg sifil mewn maes pwnc cysylltiedig gyda phroffil Teilyngdod (MPP) – o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS
●Graddau Safon Uwch DDE – o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS
●Cymhwyster rhyngwladol sy’n gyfwerth

Ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi bod mewn addysg bydd ceisiadau yn cael eu hystyried ar sail unigol, er y gallai gynnwys un o’r canlynol:

●Tystysgrif Addysg Uwch a ddyfernir gan sefydliad addysg bellach gymeradwyedig mewn maes perthnasol
●Profiad gwaith cysylltiedig (3-5 mlynedd mewn swydd oruchwyliol)

Fel arfer dylai ymgeiswyr feddu ar radd A* i C a/neu 9 i 4 mewn TGAU Saesneg / Cymraeg a mathemateg / rhifedd.

Rhoddir y gofynion mynediad fel canllaw cyffredinol i lefel y cynnig a wneir. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r gofynion mynediad, cysylltwch â ni.
Mae’r rhaglen yn cynnwys dau asesiad, y ddau ar ffurf adroddiadau. Bydd yr adroddiadau hyn yn seiliedig ar ddata wedi’i gasglu yn ystod sesiynau ymarferol. Ar gyfer pob aseiniad, bydd angen i ddysgwyr gyflwyno adroddiad manwl 2,500 o eiriau, gan roi’r cyfle iddynt arddangos eu dealltwriaeth a sut y gallan nhw gymhwyso’r cysyniadau y maen nhw wedi’u dysgu.
BETH NESAF?

• BSc Astudiaethau Peirianneg Sifil
• BSc (Anrh) Rheoli Adeiladwaith
• BSc (Anrh) Rheoli Eiddo Tirog

DEWISIADAU GYRFA

Mae HNC mewn Astudiaethau Adeiladu yn rhoi cymhwyster technegol uwch i fyfyrwyr a fydd yn briodol iddynt wrth ddilyn eu huchelgais o ran gyrfa yn sectorau canlynol y diwydiant peirianneg sifil:
• Peirianneg Sifil
• Peirianneg Strwythurol
• Peirianneg Priffyrdd
• Peirianneg Rheilffyrdd
• Peirianneg Iechyd y Cyhoedd a llawer rhagor.
£675 per student
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost