Cyflwyniad i Yriannau Cyflymder Newidiol (Gwrthdroyddion)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18446
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 1 Diwrnod.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Gyriannau Cyflymder Amrywiol (VSDs), sydd hefyd yn cael eu galw’n Gyriannau Amledd Amrywiol (VFDs) neu’n Gwrthdroyddion, yn rheoli’r llif o egni o’r prif gyflenwad i yrru moduron diwydiannol y byd. Mae bron i 70% o’r holl egni trydanol sy’n cael ei ddefnyddio yn pweru moduron trydan. Mae busnesau yn dibynnu ar y moduron hyn. Bydd y rhain yn amrywio o bwmpiau sy'n symud hylifau i wyntyllau sy'n symud aer i gywasgwyr aer, cludyddion a phob math o beiriant sy'n dibynnu ar rym cylchdro i gyflawni'r gwaith.

Mae VSDs yn gwella’n fawr effeithlonrwydd egni nifer o gymwysiadau ac yn cynnig: effeithlonrwydd gweithredol gwell, costau llafur llai, gostyngiad mewn biliau trydan, ad-daliad ariannol cyflym, costau cynnal a chadw a darnau sbâr sy'n llai ac oes offer hirach.

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno'r dysgwr i yriannau modur modern ac yn gorffen gyda dysgwyr yn cyflawni tasgau ymarferol ar VSDs diwydiannol nodweddiadol.

Deilliannau dysgu

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn:

● Gwerthfawrogi dulliau amrywiol o ddechrau modur.
● Deall y manteision ac anfanteision o ddulliau amrywiol.
● Deall pam bod angen gyriannau modur a’r manteision o’u defnyddio.
● Gwerthfawrogi theori sylfaenol modur anwythiad.
● Dysgu am dechnoleg gyriannau a rheoli amledd.
● Trafod sut mae trawsnewidydd amledd yn gweithio.
● Deall Modyliad Lled Pwls a Thechnoleg IGBT.
● Gallu gosod ac addasu paramedrau gyriant cyffredin.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol, er byddai dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg mecanyddol/trydanol cyffredinol yn fanteisiol.
Asesiadau ffurfiannol amlddewis rheolaidd.
Peiriannydd Cynnal a Chadw, Peiriannydd Awtomeiddio, Peiriannydd Offeryniaeth a Rheoli, Technegydd Gwasanaeth Maes, Technegydd Awtomeiddio Prosesau.
£180.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Briff Brecwast Cambria ar gyfer Busnes
02/07/2025

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?