Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Adnoddau Dynol

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10336
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn 12 mis. (34 wythnos fel arfer). Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad, Adnoddau Dynol
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR:

Dyma raglen a addysgir, gyda chymorth tiwtor ar gyfer aseiniadau ac asesiadau. (rhan-amser, 4 awr yr wythnos). Mae’r rhaglen yn cynnwys:

Unedau craidd gorfodol:
Perfformiad Sefydliadol a Diwylliant ar Waith
Arferion yn Seiliedig ar Dystiolaeth
Ymagweddau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl

Unedau arbenigol:
Rheoli Perthynas Cyflogaeth
Rheoli Dawn a Chynllunio Gweithlu
Gwobrwyo Perfformiad a Chyfrannu

Yn ogystal ag un uned arbenigol arall:
Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Gyswllt y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n:

• Anelu at neu’n dechrau ar yrfa mewn rheoli pobl strategol.
• Gweithio mewn swydd cefnogi pobl ac yn dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i helpu llywio gwerth sefydliadol.
• Yn gweithio tuag at neu yn gweithio mewn rôl rheoli pobl.

Fel arfer, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gyfrifoldeb dros weithredu polisïau a strategaethau Cefnogi Pobl, ac yn teimlo’r angen i ddod yn fwy meistrolgar mewn busnes wrth ddatblygu gwybodaeth fewnol sefydliadol ar yr amgylchedd a chyd-destun busnes ehangach.

Bydd disgwyl fod gan ymgeiswyr Radd, neu gymwysterau addysgol ar lefel TGAU/Lefel A, neu gymhwyster lefel Sylfaen CIPD (Lefel 3). Hefyd ystyrir ceisiadau ar gyfer y rheiny sydd mewn swydd reoli gyffredinol sydd â chyfrifoldebau datblygu polisi rheoli pobl strategol.
Nid oes unrhyw arholiadau.

Caiff pob uned ei hasesu trwy amrywiaeth o dasgau asesu a allai gynnwys aseiniadau, astudiaethau achos a dadansoddi ystadegau. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod Dysgu a gaiff ei gyflwyno a’i adolygu.
Cynorthwyo dilyniant gyrfa at swydd broffesiynol mewn Cefnogi Pobl neu swyddi tebyg. Gellir symud ymlaen o ran cymwysterau at astudiaethau Diploma Uwch Lefel 7 CIPD ar gyfer statws Proffesiynol llawn.
Ffi rhaglen lawn y Diploma yw £2,600.

Yn ogystal, mae’n rhaid i aelodau’r cwrs danysgrifio i (neu gynnal) aelodaeth CIPD sy’n costio oddeutu £130 yn y flwyddyn bresennol (yn daladwy yn uniongyrchol i CIPD) – rhoddir manylion am sut y byddwch yn cael aelodaeth myfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Argymhellir 2 werslyfr a fydd yn costio oddeutu £35.00 yr un (neu £30 yr un fel e-lyfr).
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?