City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
MY10054
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Dyma gymhwyster dysgu yn y gwaith sy’n hyblyg, agored ac y gellir dysgu o bell sydd fel arfer yn cymryd oddeutu 16 mis i’w gwblhau.
Adran
Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion yn addas ar gyfer Cynorthwywyr Dosbarth sydd yn gweithio mewn amgylchedd ystafell ddosbarth ac un ai yn meddu ar Lefel 2 neu gyda phrofiad sylweddol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau o leiaf 44 credyd i gyflawni’r Diploma. Byddwch yn ennill credydau trwy gwblhau nifer o unedau a gaiff eu llunio gan nifer wahanol o gredydau a lefelau. Mae unedau un ai’n seiliedig ar wybodaeth, sydd yn gofyn i ddysgwyr ddangos eu dealltwriaeth, neu’n seiliedig ar gymhwysedd sydd yn gofyn i ddysgwyr ddangos eu cymhwysedd yn ymarferol. Mae 11 uned orfodol y bydd 32 credyd ohonynt yn cael eu hennill ac amrywiaeth o unedau dewisol y bydd o leiaf 12 credyd ohonynt yn cael eu hennill.
Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n dymuno astudio’r cymhwyster hwn fod yn gweithio mewn lleoliad gwaith perthnasol a bod â’r cymhelliant i lwyddo yn yr hyn sydd i raddau helaeth yn gymhwyster sy’n cael ei arwain gan y dysgwr.
Mae’r rheiny sy’n cymryd y dystysgrif angen bod yn gweithio mewn swydd sy’n caniatau iddyn nhw ddangos y canlyniadau dysgu hynny sy’n berthnasol i’w gwaith bob dydd. Gall y rheiny sy’n cymryd y cymwysterau fod yn: • llawn amser neu’n rhan amser • parhaol neu dros dro • wedi’u cyflogi gan yr ysgol neu awdurdod lleol • yn seiliedig yn yr ysgol neu’n beripatetig • gweithio mewn ysgol a gynhelir, ysgol nas gynhelir neu ysgol annibynnol.

Bydd gofyn i ddysgwyr lunio portffolio o dystiolaeth, yn ddelfrydol drwy ddefnyddio system e-bortffolio, lle bydd eu cymhwysedd a’u dealltwriaeth alwedigaethol yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol pob uned. Bydd asesydd yn cael ei benodi i bob dysgwr a fydd yn arsylwi arnynt yn rheolaidd yn eu gweithle wrth iddynt wneud eu gwaith. Bydd dulliau asesu eraill yn cynnwys tystiolaeth tystion, trafod a chwestiynu, dogfennau sy’n gysylltiedig â gwaith ac adroddiadau ysgrifenedig hunan-adfyfyriol. Ar gyfer unedau yn seiliedig ar wybodaeth efallai y bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai ac yn cwblhau aseiniadau wedi’u gosod.
Gallai’r cymhwyster hwn arwain at ragolygon gyrfa well, yn dibynnu ar eich llwybr gyrfa ddewisol.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at:cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?