Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LA12383 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Rhan Amser, 2 ddiwrnod |
Adran | Busnes, Arwain a Rheoli, Rheoli Prosiectau – PRINCE2 |
Dyddiad Dechrau | 16 Apr 2026 |
Dyddiad gorffen | 17 Apr 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Bydd dysgwyr angen mynediad at y rhyngrwyd yn ogystal â chyfrif e-bost Coleg Cambria (wrth i ddysgwyr gofrestru gyda’r coleg byddant yn cael cyfrif gmail). Mae’r dulliau cyflwyno’n gyfuniad o ffrydio’n fyw, rhyngweithio fel grŵp a thasgau unigol.
Mae PRINCE2® yn ddull strwythuredig o reoli prosiectau, y gellir ei addasu i brosiect o unrhyw faint. Mae PRINCE2® yn canolbwyntio ar gyfiawnhad busnes, yn diffinio strwythur sefydliad yn glir ar gyfer y tîm prosiect, ac mae’n defnyddio dull cynllunio sy’n seiliedig ar y cynnyrch. Mae wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn seiliedig ar arfer orau, ac mae’n feincnod ar gyfer rheolwyr prosiectau a dderbynnir yn rhyngwladol. Gall sefydliadau sy'n integreiddio PRINCE2® i mewn i'w prosiectau fod yn sicr y byddant yn cael eu rheoli’n rhagorol. Bydd unigolion sy’n chwilio am waith fel rheolwyr prosiectau yn gwybod fod ardystiad gan arweinydd y farchnad yn gaffaeliad cadarn i’w portffolio proffesiynol.
Ymarferydd PRINCE2®
Nod yr ardystiad Ymarferydd yw cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi ennill dealltwriaeth ddigonol o sut i gymhwyso a theilwra PRINCE2® mewn sefyllfa senario. Dylai Ymarferydd llwyddiannus, gyda chyfarwyddyd addas, allu dechrau cymhwyso’r dull i brosiect go iawn. Mae’r ardystiad yn parhau am 3 blynedd, cyn bydd angen ail-gofrestru. Mae’n rhaid llwyddo ar lefel Sylfaen ar gyfer yr ardystiad Ymarferydd.
Mae’r cwrs hwn yn defnyddio 7fed argraffiad (2023) y maes llafur.
Mae’r gost yn cynnwys yr addysgu, deunydd y cwrs, llawlyfr a’r arholiad (ymgais cyntaf yn unig).
Mae PRINCE2® yn nod masnach gofrestredig AXELOS Limited, ac fe’i defnyddir gyda chaniatâd AXELOS Limited. Cedwir pob hawl. Mae’r logo Swirl™ yn nod masnach gofrestredig AXELOS Limited, ac mae’n cael ei ddefnyddio gyda chaniatâd AXELOS Limited. Cedwir pob hawl

Dim, ar wahân i ddiddordeb mewn rheoli prosiectau. Mae angen llwyddo yn yr arholiad Sylfaen er mwyn sefyll yr arholiad Ymarferydd.
Arholiad Ymarferydd: Arholiad aml-ddewis, gyda llyfr agored, 2.5 awr o hyd. Bydd arholiadau naill ai ar-lein neu ar bapur.
Gwaith Cartref: Mae’r cwrs hwn yn ddwys! Rhaid gwneud 12 awr o waith CYN mynd ar y cwrs. Yn ogystal mae angen tua 12-15 awr o astudio ychwanegol yn ystod a/neu cyn sefyll yr arholiad fel arfer. Bydd y gwaith cartref yn cael ei osod ar noson y cwrs, ac mae’n para tua 2 awr.

Rheoli prosiectau
£876.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025