Roedd dysgwyr o’r coleg – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi – wedi rhagori wrth gyrraedd rowndiau terfynol y pedwerydd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru blynyddol.
Enillodd Nicola Culkin, Rheolwr Ansawdd yn Knolton Farmhouse Cheese yn Wrecsam, deitl Prentis y Flwyddyn.
Cafodd Naomi Spaven – prif bobydd a chef patisserie ym Mecws Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam – ganmoliaeth uchel fel Seren Addawol.
Hefyd yn cynrychioli Cambria oedd prentis Becws Iâl, Ella Muddiman, pobydd a chef crwst, Tilly Squire o Village Bakery a Belinda Rossouw o Maelor Foods, pob un wedi’u henwebu yn y categori Seren Addawol.
Cafodd y pump eu llongyfarch gan y Rheolwr Dysgu yn y Gwaith, Kate Muddiman, am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth gael eu cynnwys ymhlith goreuon y sector.
“Maen nhw i gyd wedi gwneud yn anhygoel o dda, rydyn ni’n hynod falch ohonyn nhw,” ychwanegodd.
“Roedd yn achlysur anhygoel ac roedd cael pump o ddysgwyr yn cynrychioli’r coleg a rhai o’r cwmnïau gorau yn y rhanbarth yn anrhydedd gwirioneddol.”
Dathlwyd rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf arloesol a chreadigol Cymru yn y seremoni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno.
Roedd busnesau wedi cyrraedd y rhestr fer mewn amrywiaeth o gategorïau arbenigol i adlewyrchu natur amrywiol y diwydiant yn economi Cymru – un sydd wedi ennill enw da byd-eang am ragoriaeth.
Dywedodd Cadeirydd y Beirniaid, Rhys Iley: “Roedd yn anhygoel clywed gan gynifer o ymgeiswyr a busnesau penigamp – pob un â’u hangerdd, eu pwrpas a’u heriau eu hunain. Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gymryd rhan, yn enwedig y rhai wnaeth gyrraedd y rownd derfynol.”
Crëwyd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru gan y sylfaenwyr Liz Brookes, Cyfarwyddwr Grapevine Event Management, a’r ddarlledwraig Sian Lloyd.
Yn y cyfamser, roedd Kate yn feirniad yn ddiweddar yn yr Her Gyrfaoedd Blasus i Ysgolion, lle heriwyd disgyblion o bob cwr o Ogledd Cymru i ddylunio cynhyrchion bwyd a seigiau iach, cynaliadwy, a masnachol hyfyw.
Ysgol Uwchradd Dinbych oedd yr enillwyr gyda’u cynnyrch ‘Muffin’ Around’ – detholiad o fyffins pupur coch a sbigoglys, gan greu argraff ar y beirniaid gyda chysyniad, blas a chynaliadwyedd.
“Braint wirioneddol oedd cael beirniadu’r gystadleuaeth eto eleni,” meddai Kate.
“Mae’r twf yng Ngogledd Cymru wedi bod yn rhyfeddol, ac roedd gweld yr hyder a’r gwaith tîm anhygoel gan y bobl ifanc hyn yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Roedd y safon yn eithriadol o uchel, ac rwy’n llwyr annog yr unigolion talentog hyn i ystyried byd deinamig bwyd a diod. Mae prentisiaeth yn y diwydiant yn cynnig cyfle gwych i hogi’r sgiliau hyn ac adeiladu gyrfa werth chweil.”
Am ragor o wybodaeth am Gyrfaoedd Blasus, ewch i https://cy.tastycareerswales.org.uk/.
Ceir rhagor o wybodaeth am Wobrau Bwyd a Diod Cymru, a fydd yn dychwelyd yn 2026, ar wefan Bwyd a Diod Cymru.
Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.