Mae Coleg Cambria Llaneurgain yn gartref i un o amgylcheddau academaidd mwyaf delfrydol y DU, ac yno y byddwch yn dod o hyd i grŵp o staff a darlithwyr ymroddedig lle mae eu hangerdd dros les anifeiliaid, cadwraeth ac addysg wedi bod yn ysbrydoli myfyrwyr ers blynyddoedd.
O rywogaethau egsotig i ofal domestig, damcaniaeth wyddonol i weithio yn y byd go iawn, maent yn cyflwyno rhagolwg a brwdfrydedd digyffelyb ym mhob gwers.
Mae Sadie Thackaberry, Arweinydd Rhaglen ar gyfer HND Rheoli Anifeiliaid ac Arweinydd Cwricwlwm AB ar gyfer Gofal Anifeiliaid, yn ddarlithydd ymroddedig gyda gradd Meistr mewn Ymddygiad Esblygiadol ac un arall mewn Addysg ac sydd ar hyn o bryd yn astudio am Ddoethuriaeth sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio anifeiliaid therapi mewn addysg.
Mae ei hymchwil yn adlewyrchu ymrwymiad dwfn i les anifeiliaid a lles myfyrwyr ac yn ei gwneud yn eiriolwr amhrisiadwy dros addysgu tosturiol ac arloesol.
“Mae ein tîm ni’n dîm y gellir ond breuddwydio amdano!” meddai Sadie.
“Rydym i gyd yn dod â gwahanol gryfderau i’r bwrdd ond yn rhannu angerdd cyffredin dros ofal anifeiliaid, addysg, a llwyddiant ein myfyrwyr.
“I unrhyw un sy’n ystyried dyfodol mewn cadwraeth, gwyddorau anifeiliaid, ymddygiad, neu lesiant, mae ein rhaglenni HND a HNC yn cynnig y sylfaen berffaith.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mawr mewn anifeiliaid ac awydd i wneud gwahaniaeth i ddod ac archwilio’r hyn sydd gan Cambria Llaneurgain i’w gynnig.”
Yn ymuno â Sadie mae Stephanie Davies sydd â chefndir mewn addysg sŵolegol a BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg ac yn Ymddiriedolwr i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Alex Morgan, sydd â graddau mewn Gwyddor Ymddygiad Anifeiliaid ac Addysg, gan gyfuno mwy nag 20 mlynedd o addysgu gyda phrofiad fel perchennog busnes creadigol, a Louise Baker sydd ag arbenigedd mewn Gwyddor Ceffylau, Seicoleg a Gwyddor Ymddygiad Fforensig, ac sy’n rhedeg busnes ceffylau llwyddiannus.
Hefyd yn haeddu clod yn ôl Sadie y mae Darren Roberts sydd wedi treulio 29 mlynedd yn addysgu yn Llaneurgain mewn Gwyddor Bywyd ac sydd â brwdfrydedd “sydd ond yn cael ei gyfateb gan ei ymroddiad i lwyddiant myfyrwyr” a Sam Bevin sy’n weithiwr proffesiynol profiadol gyda dros 20 mlynedd yn y diwydiant gofal anifeiliaid gan arbenigo mewn meithrin cŵn a gofal anifeiliaid ymarferol.
Gyda’i gilydd mae’r tîm rhagorol hwn wedi helpu i sefydlu Coleg Cambria Llaneurgain fel canolfan ragoriaeth mewn addysg rheoli anifeiliaid.
Mae eu gwybodaeth, eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal anifeiliaid proffesiynol yn rheswm allweddol pam mae dysgwyr yn teithio o bell ac agos i astudio ar y safle yng Ngogledd Cymru.