main logo
Mae eich dyfodol yn dechrau yma

DIGWYDDIADAU RECRIWTIO STAFF

An image showing a smiling male and female staff member of Coleg Cambria

Dewch draw i’n Digwyddiadau Agored Recriwtio!

Rydym yn chwilio am Ddarlithwyr, Cymorthyddion Cymorth Dysgu, Swyddi Cymorth i Fyfyrwyr, Staff Bwyty, Staff y Feithrinfa a rhagor…cliciwch yma i weld ein rhestr lawn o swyddi gwag.

Ymunwch â ni yn ein Digwyddiadau Agored Recriwtio a darganfyddwch y lle i chi!

Cadwch eich lle yn y digwyddiad agored sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis y lleoliad(au) isod.

Siaradwch â'r tîm

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Cambria!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 007

Anfonwch E-bost atom ni

Anfonwch e-bost atom

enquiries@cambria.ac.uk

Ynglŷn â’n Coleg

Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.

Ar draws ein chwe safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Play Video
Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol yw ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’

Ein blaenoriaeth gyffredinol yw parhau i gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i rôl Cambria ddod yn bwysicach byth i’n cymunedau a’n heconomi.

Ein Gwerthoedd

Dangos gonestrwydd ac uniondeb

Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi

Bod yn garedig a chefnogol

Gweithio gydag eraill

Teimlo'n gyfartal a chynhwysol

Bod yn gymuned

Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig

Annog ac ysgogi

Bod yn frwdfrydig

Bod yn arloesol