Mae Dylan Morris wedi trawsnewid ei syniad o’r ystafell ddosbarth yn gwmni MountForce – brand dillad actif a ffordd o fyw sy’n tyfu’n gyflym ac sydd eisoes yn boblogaidd ledled y DU a thu hwnt.
Yn gynharach eleni – wrth astudio cymhwyster Lefel 1 mewn Busnes, Teithio a Digwyddiadau yng Ngholeg Cambria – roedd yn rhan o dîm a gipiodd y prif wobrau yn rowndiau terfynol Menter Ifanc Gogledd Cymru, gan ennill Gwobr y Beirniaid a Gwobr Rhaglen y Cwmni.
Aeth eu cyflwyniad hyderus â nhw i rowndiau terfynol Cymru yng Nghaerdydd lle cipion nhw’r Wobr y Cyflwyniad Gorau a thynnu sylw mentoriaid y diwydiant a oedd yn awyddus i’w cefnogi ymhellach.
Mae Dylan yn dod o Wrecsam ac yn astudio cymhwyster Lefel 2 mewn Busnes ar hyn o bryd ac roedd y digwyddiad yn sbardun i wireddu ei freuddwydion.
“Cafodd MountForce ei sefydlu o ganlyniad i’r gystadleuaeth ond mi sylweddolais yn sydyn iawn ei fod yn llawer mwy na hynny,” meddai.
“Rhoddodd blatfform i mi annog pobl i ddechrau cyflawni eu nodau trwy waith caled a disgyblaeth, boed hynny yn y gampfa neu fywyd bob dydd.”
Ers hynny, mae’r cwmni wedi tyfu’n gyflym gan ddenu cwsmeriaid a chymuned ar-lein o gyn belled â’r Almaen ac wedi derbyn cefnogaeth athletwyr a chwaraewyr proffesiynol.
Mae rhestr ‘Athletwyr MountForce’ yn cynnwys y bocsiwr proffesiynol Sion Yaxley a Cory Jones, bocsiwr amatur rhyngwladol o Gymru.
“Mae’n anodd coelio weithiau pan maen nhw’n dweud wrtha’i bod y dillad wedi bod yn wych ar gyfer eu hymarferion,” meddai Dylan.
“Mae ein hathletwyr wedi bod yn wych a’r ffaith eu bod nhw’n fodlon cynrychioli’r brand mor gynnar â hyn yn dangos i bobl beth allwch chi ei gyflawni os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn rhoi 100%.”
Wrth wraidd MountForce mae mwy na dillad yn unig, cenhadaeth y brand yw adeiladu cymuned gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar iechyd ar-lein ac oddi-ar-lein.
Ochr yn ochr â’r crysau-T sydd fwyaf poblogaidd ar hyn o bryd mae Dylan yn paratoi i lansio hwdis a thopiau cywasgu’r gaeaf hwn gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ‘Gofod MountForce’ rhyngweithiol sy’n cynnig ffrydiau byw, fforymau hyfforddi, awgrymiadau ar faeth a chyfle i gyfoedion gynnig cyngor i’w gilydd.
“Dydw i ddim eisiau gwerthu dillad gyda logo arnyn nhw yn unig; mae’r brand wedi’i chynllunio i wneud y mwyaf o berfformiad – mae’n cynrychioli rhywbeth llawer mwy,” meddai Dylan.
Er gwaethaf y llwyddiant hwn mae’n parhau i fod hunan ymwybodol ac yn dweud bod ganddo feddylfryd entrepreneuraidd diolch i gefnogaeth darlithwyr yng Nghambria, yn enwedig Viktoriya Hughes.
Ychwanegodd Dylan: “Dwi’n ddiolchgar iddyn nhw am gredu ynof i, mae’r anogaeth honno wedi fy sbarduno i wneud hyn yn llwyddiant a hebddyn nhw ni fyddai MountForce yn bodoli.
“Roeddwn i’n arfer eistedd y tu mewn drwy’r dydd yn chwarae gemau Xbox a ddim yn gwybod beth i’w wneud gyda fy nyfodol ac yna nes i ddechrau bocsio a chadw’n heini ac mi newidiodd hynny fy meddylfryd yn llwyr.
“Dyna’n union yw genhadaeth y brand sef annog pobl i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain trwy waith caled ac ymroddiad.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.mountforce.co.uk neu dilynwch @mountforceuk ar Instagram.