main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Gwnaeth dysgwyr Busnes Lefel 3 BTEC o Goleg Cambria redeg siop wib er budd Hosbis Tŷ’r Eos.

Roeddent wedi casglu bron i £700 mewn llai na 48 awr. Ynghyd ag ocsiwn, twrnamaint pêl-droed pum bob ochr ac arian fel rhodd gan gymheiriaid ar y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai – £389 trwy her canŵ – daeth y cyfanswm i fwy na £1267.

Dywedodd Anne Williams-Redfern, Darlithydd Busnes: “Roedd hyn yn rhan o’u hunedau craidd a’r Her Sgiliau ond roedd hefyd yn gyfle i gefnogi elusen leol anhygoel.

“Dwi mor falch ohonynt i gyd, maen nhw wedi dangos dychymyg gwych ac wedi gweithio’n galed i helpu’r hosbis, gan fynd yr ail filltir i godi cymaint o arian â phosibl.

“Dwi mor falch ohonynt i gyd, maen nhw wedi dangos dychymyg gwych ac wedi gweithio’n galed i helpu’r hosbis, gan fynd yr ail filltir i godi cymaint o arian â phosibl.

Rhoddodd Sarah Povey, sy’n codi arian mewn digwyddiadau ac yn y gymuned ar gyfer Hosbis Tŷ’r Eos, ganmoliaeth i’r myfyrwyr am eu caredigrwydd.

“Diolch o galon i’r dysgwyr a’r staff am godi cyfanswm anhygoel o £1267.20 ar gyfer Tŷ’r Eos a llongyfarchiadau am gwblhau eich heriau,” dywedodd.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cymorth hael rydym wedi’i gael gan y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai a’r grwpiau Lefel 3 BTEC mewn Busnes dros y mis diwethaf.

“Mae ein gofal tosturiol yn dibynnu ar haelioni cefnogwyr brwd fel nhw sy’n codi arian hanfodol ar ein cyfer.

“Mae eich cymorth yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n golygu y gallwn ni gefnogi rhagor o deuluoedd pan fo nhw ein hangen ni, gan eu helpu i lenwi eu dyddiau gwerthfawr olaf â chariad a gofal.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

I gael rhagor o wybodaeth am Hosbis Ty’r Eos, ewch i www.nightingalehouse.co.uk .

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost