Background Splash

Gan Alex Stockton

Deeside Site

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy – Dydd Iau 6 Tachwedd, 5.30pm–8pm Llysfasi – Dydd Sadwrn 8 Tachwedd, 10am–1pm Iâl a Chweched Iâl, Wrecsam – Dydd Mercher 12 Tachwedd 5.30pm–8pm Ffordd y Bers, Wrecsam – Dydd Mercher 12 Tachwedd, 5.30pm–8pm Llaneurgain – Dydd Sadwrn 15 Tachwedd, 10am–1pm

Bydd gan ymwelwyr y cyfle i gwrdd a siarad â thiwtoriaid a staff cymorth, cael taith o amgylch cyfleusterau modern y coleg, sydd werth miliynau, ac archwilio’r ystod eang o raglenni llawn amser a rhan-amser sydd ar gael – gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, cyrsiau Galwedigaethol a Phrentisiaethau, a llwybrau addysg uwch drwy Ganolfan Brifysgol Cambria.

Dywedodd Pennaeth Coleg Cambria Sue Price bod y digwyddiadau hyn yn darparu llwyfan ar gyfer darpar fyfyrwyr i ddarganfod popeth mae’r coleg yn ei gynnig, yn ogystal â bod y cyfle cyntaf i wneud cais am gyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2026.

“Mae ein digwyddiadau agored ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd yn y calendr academaidd ac yn denu cannoedd o ddarpar ddysgwyr sy’n edrych ymlaen at gam nesaf eu taith addysgu,” meddai Mrs Price.

“Maen nhw’n gyfle i brofi’n uniongyrchol yr amrywiaeth o gyfleoedd rydyn ni’n eu cynnig, o E-chwaraeon, Cerddoriaeth, a Rheoli Anifeiliaid i Goedwigaeth, Therapi Harddwch, Adeiladu, a Busnes.

“Gallai ymwelwyr archwilio ein hamgylcheddau dysgu modern, siarad yn uniongyrchol â thiwtoriaid, a darganfod am y cymorth iechyd, llesiant, a chynhwysiant rhagorol sydd ar gael ar bob safle.”

Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael y cyfle i archwilio cyrsiau a chymwysterau ar draws pob maes pwnc, cwrdd â staff a darlithwyr, a chael taith o amgylch y cyfleusterau sy’n torri tir newydd – gan gynnwys taith 3D o bob safle.

Hefyd bydd gwybodaeth ar gael ar y cyfleoedd astudio’n ddwyieithog sydd ar gael a rhaglenni rhan-amser, a bydd ymwelwyr yn gallu cyflwyno eu ceisiadau ar y diwrnod, sy’n cael ei argymell o ystyried cynnydd yn y galw am leoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Un myfyriwr sydd wedi manteisio o ddull ymarferol Coleg Cambria ydy Emily Jackson, cyn-fyfyriwr Lefel 3 BTEC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn Ffordd y Bers.

“Mi wnes i ddewis astudio yng Ngholeg Cambria gan ei fod yn cynnig y llwybr orau i fy niwydiant dewisol,” meddai Emily.

“Oherwydd y gwaith cwrs ymarferol a’r tiwtoriaid cefnogol, sydd â phrofiad o’r byd go iawn, roedd y dysgu yn ddiddorol a mewnweledol.

“Ar ôl cwblhau fy nghwrs Lefel 3, mi wnes i symud ymlaen i’n HNC yn yr un coleg, gan osgoi’r angen i fynd i’r brifysgol. Rŵan, dwi’n gweithio fel Technegydd Pensaernïol yn CB3 Design Architects yn Swydd Caer.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost