Cafodd gwobrau myfyrwyr blynyddol Coleg Cambria eu cynnal ar eu safle Iâl, Wrecsam ar gyfer myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch (AB ac AU) a Dysgu yn y Gwaith (DyyG) ac Addysg Oedolion a Chymunedol (AOaCH)
Cafodd rhieni, gofalwyr a gweithwyr eu gwahodd i’r digwyddiad a gafodd ei gynnal dros ddwy noson dan arweiniad Caroline Street, Dirprwy Brif Weithredwr Cambria dros Brofiadau Pobl a Diwylliant, a Llinos Roberts, Pennaeth y Gymraeg.
Roedd Jackson, awdur, mentor, a siaradwr ysgogol arobryn, yn ogystal â Kamal Hyman, entrepreneur sydd wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn, yn westeion arbennig.
Roedd perfformiadau hefyd gan Gôr Coleg Cambria, a fydd yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol sydd ar ddod.
“Am flwyddyn anhygoel rydyn ni wedi’i chael yng Ngholeg Cambria! “Llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi ar eich cyflawniadau anhygoel,” meddai’r Prif Weithredwr Yana Williams.
“Rydyn ni mor falch o bopeth rydych chi wedi’i gyflawni, ac rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i’ch teuluoedd a’ch cefnogwyr am y rhan hanfodol maen nhw wedi’i chwarae ar hyd y ffordd.
“Rydych chi wir yn ymgorffori ysbryd y coleg ac mae eich gwaith caled, eich ymroddiad a’ch angerdd yn amlwg ym mhopeth a wnewch. Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael dathlu eich llwyddiannau ar draws amrywiaeth mor eang o raglenni.”
Mae gwobrau’r myfyrwyr yn dathlu cyflawniad ar draws holl safleoedd Cambria – Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Ffordd y Bers a choleg Iâl yn Wrecsam.
Roedd yr enillwyr yn cynnwys:
Myfyriwr y Flwyddyn – Chweched Glannau Dyfrdwy – Megan Astbury
Myfyriwr y Flwyddyn – Chweched Iâl – Tegan Haskell
Myfyriwr y Flwyddyn – Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Haneen Alsaadi
Dysgwr AU y Flwyddyn – Bryn Williams
Dysgwr y Flwyddyn – Prentisiaeth Gradd – Rebecca Dunnington
Myfyriwr y Flwyddyn – Cerbydau Modur – Rachel Taylor
Myfyriwr y Flwyddyn – Peirianneg – Cameron Daly
Myfyriwr y Flwyddyn – Sgiliau Byw’n Annibynnol – Curtis Jones
Myfyriwr y Flwyddyn – Twf Swyddi Cymru+ – Preston Gray
Myfyriwr y Flwyddyn – Cwrs i’r Niwroamrywiol – Julia Dymnicka
Myfyriwr y Flwyddyn – Cyrsiau’r Tir Llysfasi – Nichola Wright
Myfyriwr y Flwyddyn – Astudiaethau Technegol yn Llaneurgain – Finn Jones
Myfyriwr y Flwyddyn – Twristiaeth – Fabio Prior
Myfyriwr y Flwyddyn – Profiad Dysgwyr – Lili Allen
Myfyriwr y Flwyddyn – Yr Iaith Gymraeg – Magi Roberts
Myfyriwr y Flwyddyn – Elusennau – Jessica Howard
Dysgwr yn y Gwaith y Flwyddyn – Arwain a Rheoli – Amy Evans
Dysgwr yn y Gwaith y Flwyddyn – Gofal Plant – Maxine Read
Dysgwr yn y Gwaith y Flwyddyn – Gwaith Chwarae – Amanda Evans
Prentis y Flwyddyn – Crefftau Adeiladu – Harry Griffiths
Prentis y Flwyddyn – Iaith Gymraeg – Laura Williams
Dysgwr y Flwyddyn – Dysgwr sy’n Oedolyn – Jerin Koothamattathil George
Dywedodd Ms Williams hefyd: “P’un a ydych chi wedi dilyn prentisiaeth, wedi astudio cyrsiau Safon Uwch neu wedi dilyn rhaglen dysgu yn y gwaith, megis dechrau mae eich taith.
“Beth bynnag ddaw nesaf, rydyn ni eisiau i chi wybod y byddwn ni bob amser yn eich cefnogi ac yn dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd i chi yn y dyfodol.”