Mae’r hwb Undeb Myfyrwyr ar safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam wedi’i anelu at gyfoethogi a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant, a datblygiad personol ochr yn ochr ag academia.
Wedi’i gefnogi gan Medr, mae’r datblygiad wedi profi’n boblogaidd iawn yn barod gyda dysgwyr ers agor ei ddrysau.
Mae’n dod ag ystod eang o wasanaethau cymorth ynghyd o dan yr un to, gan adlewyrchu ymrwymiad parhaus y coleg at lesiant, amrywiaeth, cydraddoldeb, a chynhwysiant.
Mae’r hwb hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn datblygu profiadau dysgwyr yn gyffredinol – gan gynnig lle i fyfyrwyr gysylltu’n gymdeithasol, cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ac archwilio cyfleoedd wedi’u harwain gan fyfyrwyr sy’n eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau newydd a hyder y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Mae’r hwb yn gartref i’r timau Llais Myfyrwyr a Menter ac yn ganolbwynt i glybiau a chymdeithasau, arweiniad ariannol, mentrau entrepreneuriaeth, y gaplaniaeth, a rhaglen Gwobr Dug Caeredin.
Mae ‘siop gyfnewid’ dillad a chynlluniau i gydweithio gyda thimau chwaraeon lleol ar werthu nwyddau yn tynnu sylw yn rhagor at ei ffocws ar gynaliadwyedd ac ymgysylltu â’r gymuned.
Dywedodd Cydlynydd Ymgysylltu Llais Myfyrwyr Mark-Ryan Hughes fod y cysyniad wedi bod yn cael ei ddatblygu am beth amser a bod y staff wrth eu bodd gydag ymateb y myfyrwyr.
Dywedodd: “Dyma hwb lle y gallai dysgwyr ymgysylltu â’r tîm Llais Myfyrwyr, cyrchu arweiniad, a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n cefnogi eu twf academaidd a phersonol.
“Mae’r cyfleuster hefyd yn gyswllt i fwyty a ffreuturau’r safle, gan helpu i greu amgylchedd bywiog a chymdeithasol sy’n ategu bywyd bob dydd yn y coleg.”
Ychwanegodd bod y lleoliad yn Iâl yn fodel ar gyfer cyfleusterau tebyg ar draws safleoedd eraill Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, a Llysfasi.
“Y nod tymor hir ydy darparu’r holl ddysgwyr gyda synnwyr o berthyn ac annibyniaeth, gan eu hannog nhw i wneud ffrindiau newydd, cyrchu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a mwynhau profiad cadarnhaol a chytbwys yn y coleg,” meddai.
Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Cambria, Yana Williams, fod canolfan newydd Undeb Myfyrwyr yn gam arall ymlaen yn ymdrechion y coleg i sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.
Dywedodd hi: “Mae creu’r hwb yma yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol a diddorol sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
“Rydyn ni’n falch i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n helpu myfyrwyr i ffynnu’n academaidd, yn bersonol, ac yn gymdeithasol, gan gadarnhau’r synnwyr o gymuned ar draws ein holl safleoedd.”
Canmolodd Llywydd NUS Cymru, Deio Owen, y fenter hefyd a phwysleisiodd bwysigrwydd mannau pwrpasol i fyfyrwyr ledled Cymru.
Dywedodd: “Mae’n wych gweld Coleg Cambria yn datblygu’r hwb yma. Mae cyfleusterau fel y rhain yn hanfodol i ddysgwyr gyrchu gweithgareddau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a dod yn bwynt canolog ar gyfer cefnogaeth.
“Dwi’n edrych ymlaen at weld y coleg yn gweithio gyda’u Hundeb Myfyrwyr i ddatblygu mannau tebyg mewn mannau eraill a sicrhau bod lleisiau dysgwyr bob amser yn cael eu clywed.”