main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Restaurant general manager, Matt Alexander giving a talk to a group of adults

Mynychodd dros 50 o bobl ddigwyddiad yn hwb addysg £1.2 miliwn Coleg Cambria yn Llysfasi, lle bu siaradwyr o bob cwr o’r rhanbarth yn trafod amrywiaeth o bynciau, o gadw gwenyn i fwyd a diod iach wedi’i gynhyrchu’n lleol.

Yn eu plith roedd Ramblers Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Gwenynwyr De Clwyd, Ecological Land Management, Clwb Golff Nefyn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Golff Cymru, awdurdodau lleol a’r Business Environment Network.

Roedd myfyrwyr a staff y coleg hefyd yno i ddysgu mwy am sut i ddefnyddio gofod ar safleoedd y sefydliad yn Wrecsam, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi.

Yn dilyn llwyddiant y diwrnod, dywedodd Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria, Kate Muddiman, y gallai ddatblygu i fod yn ddigwyddiad chwemisol.

“Roedd y nifer a fynychodd yn uchel iawn felly hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd,” ychwanegodd.

“Roedd y brif thema’n ymwneud â ffyrdd o wella cynefinoedd gyda gofalu am griniau wrth graidd hynny, gan edrych ar ffyrdd o greu ardaloedd naturiol o fywyd gwyllt o gwmpas cyrsiau golff, drwy greu dolydd blodau gwyllt ac annog mwy o fywyd gwyllt naturiol ac amgylchedd mwy cynaliadwy.

“Yn ogystal â chyflogwyr roedd yno hefyd fyfyrwyr, prentisiaid a hyd yn oed trigolion lleol, â phawb eisiau bod yn fwy cynaliadwy a chael eu hysbrydoli ynglŷn â lle i ddechrau.

“Roedd yr awyrgylch yn wych, gyda’r gynulleidfa’n cyfranogi go iawn, gan ofyn cwestiynau, cynnig awgrymiadau pellach a rhannu syniadau.

Ymysg y siaradwyr roedd Matt Alexander, Rheolwr Cyffredinol Bwyty Iâl yng Ngholeg Cambria Iâl, a fu’n trafod y fenter ‘o’r fferm i’r fforc’ a’r defnydd o gynhwysion a chyflenwyr lleol, yn ogystal â chyfleoedd addysg a hyfforddiant.

Hefyd yn cyflwyno roedd Eleri Turner, a esboniodd ei phrentisiaeth gyda Cambria a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau, sef cynllun pum mlynedd dan nawdd y Loteri Genedlaethol sy’n gwarchod ardal o ogledd Eryri.

Mae Eleri wedi bod yn gweithio ar y cyd gydag Abbie Edwards sy’n un o Geidwaid Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac fe wnaeth y ddwy ohonyn nhw – sy’n hanu o Fethesda – ymddangos mewn pennod o raglen flaenllaw’r BBC, Countryfile, yn gynharach eleni.

Yn ddiweddarach, cafwyd sgwrs ysbrydoledig gan Jonathan Hulson o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar sut maen nhw’n gweithio i adfer gwytnwch i goetiroedd Cymru, tra esboniodd y Cydlynydd Partneriaethau Natur Lleol, Julieanne Quinlan sut y gall pawb gymryd camau bach i hybu cynaliadwyedd drwy blannu dolau blodau gwyllt neu osod blychau gwenoliaid i helpu i greu cynefinoedd.

Meddai Kate: “Trafodwyd ystod eang o bynciau, ac yn sgil yr ymateb rydyn ni wedi’i gael, byddwn yn ystyried cynnal digwyddiadau tebyg unwaith neu ddwywaith y flwyddyn ar wahanol themâu, gan ddod â busnesau, y coleg a’r gymuned o dan yr unto i gydweithio a thrafod y ffyrdd gorau y gall pawb wneud mwy dros yr amgylchedd.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth am Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost