Coedwigaeth a Chefn Gwlad

Agriculture

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae Prentisiaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o ddechrau yn y diwydiant cyfrifeg.

Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, yn sefyll o dan ganopi o goed neu’n cerdded drwy goetir â’r ddaear wedi’i orchuddio â mwsogl, yna byddai Prentisiaeth mewn Coed a Phren yn ddelfrydol i chi.

O ddatrys dirgelion gwahanol rywogaethau coed i ddeall sut maen nhw’n ffynnu mewn ecosystemau amrywiol, byddwch yn ymchwilio i galon y goedwig ac yn dysgu celfyddyd coedyddiaeth, meistroli’r sgiliau i ofalu am goed a’u trin mewn tirweddau trefol a naturiol.

Paratowch i gael eich dwylo yn fudr gyda gwaith ymarferol drwy gydol y flwyddyn a’r angen am sgiliau tîm a chyfathrebu da.

Diploma Lefel 2 mewn Coed a Phren yn y Gwaith

Gofyniad Mynediad – Gweithio mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesiad – Asesiad yn y gwaith, gweithlyfrau a gwaith theori

Lleoliad – Gweithle

Diploma Lefel 3 mewn Coed a Phren yn y Gwaith

Gofyniad Mynediad – Gweithio mewn diwydiant perthnasol, cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth 

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesiad – Asesiad yn y gwaith, gweithlyfrau a gwaith theori

Lleoliad – Gweithle

A wyddech chi?
Mae gan y sector coedwigaeth yng Nghymru Werth Ychwanegol Gros blynyddol o £499.3 miliwn ac mae’n cyflogi rhwng 8,500 ac 11,300 o bobl.
[Cyfoeth Naturiol Cymru, Mehefin 2023]

Awgrym Gwerth Chweil

Cysylltwch â busnesau lleol a rhowch gopi o’ch CV iddyn nhw, efallai nad ydyn nhw erioed wedi meddwl am logi Prentis o’r blaen!

Mae’r Holl Brentisiaethau’n Cynnwys Y Canlynol:
  • Asesiadau Cychwynnol a Diagnostig
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth
  • Cymhwyso Rhif
  • Cyfathrebu Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddechrau prentisiaeth, gallwch chi gael cyflogaeth eich hun neu gallwch chwilio trwy ein swyddi gwag, neu siarad â’n tîm ymroddedig. Pa bynnag lwybr rydych chi’n penderfynu sy’n iawn i chi, rydyn ni yma i’ch helpu chi i lwyddo.
Play Video

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
06/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi wneud penderfyniad ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi ddod i gymryd cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost