Ar ôl bron i bedair blynedd o waith caled gan y darlithydd John Freeman a’i fyfyrwyr, mae’r cerflun wedi’i grefftio â llaw o ddraig yn amddiffyn plentyn bach wedi’i osod y tu allan i safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam.
Wedi’i greu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru, mae cam cyntaf y prosiect wedi’i orffen.
Y dasg nesaf fydd codi’r plinth o lechen Gymreig i ffurfio castell ochr yn ochr ag “afon o gyllyll”, sydd i’w gwblhau ym mis Tachwedd.
Gyda’r nos bydd y ddraig yn cael ei goleuo mewn coch, gwyn a gwyrdd, yn symbol o Gymru ac yn atgof o’r effaith ddinistriol y gall trosedd arfau ei chael ar gymunedau.
“Mae wedi cymryd dyddiau ac wythnosau lawer o ymroddiad, gyda chefnogaeth a sgìl anhygoel ein dysgwyr, i ddod â’r cerflun yn fyw,” meddai John.
“Mae’r staff wedi rhoi’r enw chwareus ‘JohnFree’ i’r ddraig gan fy mod i wedi treulio pob awr pan nad ydw i wedi bod yn darlithio yn y gweithdy, yn llunio amrywiaeth o arfau wedi’u hatafaelu gan gynnwys cyllyll cegin, cleddyfau samurai, dyrnau haearn a bidogau, a’u weldio ar fframiau dur i ffurfio’r prif gorff a’r pen.
“Mae’r adenydd wedi’u gwneud o stribedi a rhwyllau gwifrog, a gymerodd amser hir i’w cwblhau, ond mae’r cyfan wedi’i gwblhau o’r diwedd.
“Rydyn ni mor hapus gyda’r ffordd mae’n edrych, bron yn union yr un fath â’r model roeddwn i wedi’i ddylunio i ddechrau, ac yn falch y bydd yn cynrychioli achos mor bwysig.”
Ychwanegodd Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle yn Ffordd y Bers: “Mae’r cerflun gorffenedig yn drawiadol iawn ac yn esiampl nid yn unig ar gyfer ymwybyddiaeth gyllyll ond hefyd o dalent a sgìl y myfyrwyr a gyfrannodd at ei hadeiladu, gydag iechyd a diogelwch yn brif flaenoriaeth yn y broses.
“Bydd y cerflun yn cymryd ei le’n falch yma yn Ffordd y Bers, yn symbol i genedlaethau’r dyfodol ac wedi’i wneud yn gyfan gwbl o arfau a gasglwyd gan Heddlu Gogledd Cymru trwy amnest neu atafaeliad.
“Defnyddiwyd sawl mil o arfau i wneud y ddraig gyllyll ac mae’n eitha’ syfrdanol pan feddyliwch chi am y peth, ac yn cyfleu neges bwerus dros ben.”
Dywedodd yr Arolygydd Ardal dros Ddinas Wrecsam Rhodri Ifans, er bod troseddau cyllyll yn parhau i fod yn isel yn Wrecsam, ei bod yn bwysig “i bawb weithredu i leihau rhagor ar y nifer”.
“Mae cyllyll yn beryglus a does dim lle iddyn nhw ar ein strydoedd. Mae pob digwyddiad sy’n ymwneud â chyllell yn effeithio ar bawb dan sylw, felly mae hwn yn fater rydyn ni’n ei gymryd o ddifrif,” meddai.
“Yn hynny o beth, mae’n hynod bwysig ein bod ni’n gallu creu cyfleoedd i dynnu sylw at droseddau cyllyll a’r hyn y gallwn ei wneud i’w atal.
“Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i addysgu unrhyw un sy’n meddwl ei bod yn dderbyniol i gario cyllell ac mae’r Ddraig Gyllyll yn cynnig ffordd y gallwn ni weithio gyda’n partneriaid ar brosiect a allai atal trasiedi arall.
“Wedi’i gwneud o arfau rydyn ni wedi’u cymryd oddi ar ein strydoedd ein hunain, fyddan nhw byth eto’n gallu niweidio unrhyw un.
“Trwy weithio gyda’n partneriaid, byddwn yn parhau i addysgu, gorfodi, a gweithredu ar unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhoi i ni er mwyn dod â’r rheiny sy’n ymwneud â’r math hwn o droseddu o flaen eu gwell.”
Ychwanegodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaeth a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Paul Roberts: “Bydd y Ddraig Gyllyll drawiadol hon yn ein hatgoffa o’r effaith ddinistriol y gall trosedd cyllyll a thrais difrifol ei chael ar gymunedau a theuluoedd lleol.
“Yn dilyn ymweliad yr Angel Cyllyll â Wrecsam ym mis Hydref 2022, gyda diolch i staff a myfyrwyr Coleg Cambria am ei hadeiladu, bydd y Ddraig Gyllyll yn ganolbwynt parhaol i’r gweithio mewn partneriaeth a’r addysg ynghylch cadw troseddau cyllyll yn isel yn Wrecsam.”
Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf o Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.
Os oes gennych bryderon am droseddau cyllyll, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, ewch i www.fearless.org/en/give-info.