main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

skycooper

Mae 10 dysgwr rhagorol o Gymdeithas Meddygol y coleg yn y gogledd ddwyrain wedi mynd ymlaen i astudio graddau mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddoniaeth Filfeddygol ym mhrifysgolion blaenllaw y DU.

Yn eu plith mae Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Glannau Dyfrdwy Sky Cooper, a gafodd tair A* yn ei Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru gan sicrhau ei lle ym Mhrifysgol Manceinion, ac Aimee Brassey, sy’n dechrau gradd mewn Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl llwyddo i gael A* a dwy A.

Roedd canmoliaeth i fyfyriwr ysbrydoledig Amber Leigh-Walker hefyd, sydd erbyn hyn yn astudio yn Ysgol Milfeddygaeth Harper a Keele, ar ôl iddi wynebu cyfnod heriol yn ystod y pandemig, gan gynnwys colli ei thad, a fu farw yn ddim ond 42 oed.

Mae Nora Richardson, sef Arweinydd Cwricwlwm Chweched Iâl a darlithydd Cemeg, yn dweud bod Cambria – sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain – yn parhau i gynhyrchu myfyrwyr o’r lefel uchaf yn y maes hwn.

“Maen nhw wedi gwneud yn anhygoel yn academaidd, ond maen nhw’n bobl ifanc gwych gydag agweddau cadarnhaol ac maen nhw wedi bod yn gefn i’w gilydd ar hyd eu taith,” meddai Nora.

“Mae’r Gymdeithas Feddygol yn rhan allweddol o hynny gan ei fod yn dod â’r dysgwyr sydd eisiau gwneud y gwaith ychwanegol at ei gilydd, gan gynnwys lleoliadau gwaith, mynd i’r afael â chyfleoedd a fydd yn eu helpu nhw i fod ar y llwybr i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Dwi mor falch ohonyn nhw, gan ystyried popeth y maen nhw – a’r holl fyfyrwyr- wedi gorfod eu hwynebu yn ystod y pandemig, maen nhw wedi gweithio mor galed i gyflawni eu breuddwydion ac mae ganddyn nhw ddyfodol disglair o’u blaenau nhw.”

Mae’r dysgwyr eraill sydd wedi mynd ymlaen i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddoniaeth Filfeddygol yn cynnwys:

Marni Edwards, Gwyddoniaeth Filfeddygol Sylfaen ym Mhrifysgol Nottingham, a myfyrwyr Meddygaeth Joe Baines (Prifysgol Glasgow), Evie Huhtala (Prifysgol Lerpwl, dechrau yn 2023), Thomas Daniel (Prifysgol Sheffield), Aubrey de Luna (Prifysgol Manceinion), a Charlotte Lester ac Ocean Lee Wayman (Prifysgol Lerpwl).

Ychwanegodd Nora: “Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn glod i Goleg Cambria, a’r Gymdeithas Feddygol, gan fynd i ddigwyddiadau i gynorthwyo eu ceisiadau ar gyfer y brifysgol a gydag ymarferwyr presennol, yn ogystal ag ymarfer cylchredau cyfweliadau yn ein cynhadledd flynyddol.

“Rydyn ni’n ffodus ac wrth ein boddau bod cyn-fyfyrwyr Cambria yn dod i gefnogi’r Gymdeithas a’i haelodau, mae’r grŵp diweddaraf wedi cytuno i wneud hynny. Bydd hyn yn hwb i ddysgwyr y dyfodol ac yn enghraifft o’r agosatrwydd a’r gefnogaeth sydd yma yn y coleg.”

“Dwi’n ddiolchgar i lawer o’n cydweithwyr allanol sy’n rhoi eu hamser yn hael i gefnogi a chyflwyno gwybodaeth i’n myfyrwyr, yn enwedig Dr Claire O’Donnel, hebddi hi ni fyddai ein myfyrwyr yn gallu cyrchu gwefan rhagorol sy’n cynnwys cyfweliadau gydag ystod o feddygon, deintyddion, milfeddygon a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, mae rhai ohonyn nhw’n gyn-fyfyrwyr Cambria.”

Mae Gareth Rhodri Jones sef y Cyfarwyddwr Cwricwlwm yn canmol Nora am ei rhan yn datblygu’r myfyrwyr, ychwanegodd: “Mae eu llwyddiant yn dyst i’w buddsoddiad, gwaith caled a’i safonau uchel. Mae ein dysgwyr yn hynod o lwcus i gael cymorth, gofal ac arweiniad o safon uchel. Rydyn ni’n falch iawn o hynny yma yn Chweched Iâl.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost