Background Splash

Gan Alex Stockton

NANT Cambria

Cynhelir y Sioe Gofal Plant ddydd Mercher 14 Mai o 5.30pm-8.30pm yn adeilad newydd £14m y Nant ar Safle Iâl yn Wrecsam, sef canolfan iechyd a llesiant sy’n cynnwys Sba poblogaidd Iâl, wardiau ysbyty efelychiadol ac amgylcheddau rhithwir.

Wedi’i drefnu gan yr Asesydd Gofal Plant Lauren Lawrence, cyn-reolwr meithrinfa gyda thros 10 mlynedd o brofiad yn y sector, dyma’r tro cyntaf i’r coleg gynnal digwyddiad o’r fath, gan uno dros 30 o sefydliadau a busnesau gyda hyd at 100 o fyfyrwyr a’u teuluoedd, elusennau a rhanddeiliaid perthnasol.

“Yn y pen draw fe fydd yn gyfle i’r dysgwyr a’r staff arddangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd yma ac allan yn y gymuned,” meddai Lauren.

“Roedden ni eisiau dathlu hynny wrth hyrwyddo arfer gorau a dod â darparwyr gofal plant i gyd o dan yr un to yng nghanolfan arloesol Nant i ymgysylltu ac annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y maes yma, gan fod cymaint o alw.”

Ychwanegodd: “Mae’r darparwyr yn gweld ein dysgwyr mewn lleoliad gweithle ond nid y cyfleusterau anhygoel sydd gennym ni yma, felly bydd yn wych dangos yr adeilad, yr hyfforddiant, ac ochr academaidd ein rhaglenni iddyn nhw.

“Fy ngweledigaeth yw cael pocedi o bobl i gasglu syniadau a gwybodaeth, rhwydweithio dwyieithog a grwpiau’n rhannu arfer gorau, na fyddai’n cael y cyfle i wneud hynny fel arfer oherwydd natur y swydd a’r oriau mae pobl yn eu gweithio – o fore gwyn tan nos.

“Yn ôl y diddordeb rydyn ni wedi’i gael yn barod mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad anhygoel, felly rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i groesawu pobl ar y noson.”

Ymhlith y rhai fydd yn bresennol bydd carfannau o Lefelau 2 a 3 y cymhwyster Gofal, Chwarae a Dysgu Plant.

Mae sefydliadau gan gynnwys y GIG, Ysgol Goedwig, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, aseswyr ansawdd a meithrinfeydd preifat hefyd wedi cofrestru.

Yng Nghymru, mae’r sector gofal plant yn wynebu galw mawr am ymarferwyr cymwys a hyfforddedig, yn enwedig ar gyfer cymhorthyddion ac ymarferwyr addysg gynnar a gofal plant, yn sgil mentrau’r llywodraeth sydd wedi gwneud y ddarpariaeth yn fwy hygyrch.

Yn ôl Lauren, trwy gydweithio, gallant wneud gofal plant yn gynnig mwy deniadol i bobl ifanc, o ystyried y swyddi sydd ar gael mewn ysgolion, meithrinfeydd dydd, y gwasanaeth iechyd, lleoliadau gwaith chwarae a gofal, unedau anghenion arbennig, y sector teithio a chyda theuluoedd preifat sydd angen nanis.

“Mae gofal plant yn fyd anhygoel a gwerth chweil i fod ynddo a gall hefyd fod yn fan cychwyn i lawer o feysydd eraill oherwydd y sgiliau trosglwyddadwy, mae’n fwy na dim ond chwarae ac edrych ar ôl plant, sy’n esbonio’r angen am y cymwysterau hyn,” meddai.

“Mae ‘na gymaint o opsiynau ar gael, ond yn draddodiadol nid yw hon wedi cael ei hystyried yn yrfa hirdymor hyfyw, ac rydyn ni eisiau newid yr agwedd honno, gan ddechrau gyda’r digwyddiad yma.

“Mae pobl eisoes wedi gofyn i ni wneud hwn yn ddathliad blynyddol, felly cadwch lygad yn y dyfodol!”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost