Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

NorthopBusinessSchool

Mae Ysgol Fusnes Cambria yn Llaneurgain bellach yn ddarparwr Canolfan Platinwm cymeradwy o gymwysterau CIPD (Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu).

Mae statws Canolfan Platinwm yn cydnabod y ddarpariaeth barhaus o safon wych yn erbyn safonau CIPD ar gyfer marcio, asesu ac aelodaeth; mae ganddyn nhw nodweddion gweinyddol a gweithrediadau’r Ganolfan ar waith; ac yn dangos lefelau uchel o foddhad dysgwyr ar yr un pryd.

Meddai Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol Ymgysylltu â Chyflogwyr: “Rydym yn hynod falch o gael bod yn ddarparwr Canolfan Platinwm cymeradwy o gyrsiau CIPD.

“Mae’r gydnabyddiaeth glodfawr hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad diysgog i ragoriaeth a’r cyfoeth o brofiad yn y diwydiant sydd gan ein darlithwyr i’w gyfrannu yn yr ystafell ddosbarth yn cynnwys Susan Hughes a Jeanette Edwards sydd wedi chwarae rôl allweddol yn hyn i gyd.”

Ychwanegodd: “Rydym wedi derbyn cydnabyddiaeth am gynnal y safonau uchaf mewn asesu a darparu addysg broffesiynol.

“Mae’n dyst i ymrwymiad ein tîm a llwyddiant ein dysgwyr.”

Mae cymwysterau CIPD yn Llaneurgain – sy’n rhan o Goleg Cambria ac sydd gyda safleoedd hefyd yn Wrecsam, Llysfasi a Glannau Dyfrdwy – yn cynnwys y Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arferion Pobl a’r Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl.

Meddai Susan Hughes sy’n Ddarlithydd AD: “Mae bod ymysg darparwyr rhaglenni CIPD gyda statws Canolfan Platinwm yn anrhydedd anhygoel ac yn bwynt gwerthu unigryw i’r ganolfan fusnes.

“Mae’n gynnig deniadol yn arbennig i ddysgwyr – gweithwyr proffesiynol AD a rheolwyr ac arweinwyr mewn busnes – sy’n cyflawni cymhwyster gyda’r coleg wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

“Rydyn ni wedi gwirioni a byddwn yn parhau i weithio’n galed i godi’r bar ar gyfer addysg broffesiynol yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.”

Mae’r CIPD wedi bod yn hyrwyddo gwaith gwell a bywydau gweithio gwell am fwy na 100 o flynyddoedd. Mae’n helpu sefydliadau i ffynnu gan ganolbwyntio ar eu pobl ac i helpu economïau a chymdeithasau.

Fel corff proffesiynol ar gyfer AD, dysgu a datblygu a holl weithwyr proffesiynol – maen nhw’n arbenigo mewn pobl, gwaith a newid. Gyda dros 160,000 o aelodau’n fyd-eang – a chymuned sy’n datblygu’n barhaus gan ddefnyddio ei hymchwil, dealltwriaeth a’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu – ceir cyngor y gellir ymddiried ynddo ac annibyniaeth trwy arweinyddiaeth.

Am ragor o wybodaeth:CIPD | Y Corff Proffesiynol ar gyfer AD a Datblygu Pobl.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gyrsiau CIPD yn ysgol Fusnes Cambria a thaith rhithwir o’r safle: Adnoddau Dynol – CIPD < Coleg Cambria YSGOL FUSNES – LLANEURGAIN / BUSINESS SCHOOL – NORTHOP

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost