Mae Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy wedi lansio ei Ganolfan Gosmetoleg arloesol newydd – lle sy’n torri tir newydd wedi’i ddylunio i esblygu’r sector gwallt a harddwch a phrofiadau dysgwyr, wrth ddarparu hwb hanfodol, cynhwysol i’r gymuned ehangach.
Mae’r academi o’r radd flaenaf yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan y coleg ac mae wedi bod yn cael ei datblygu ers dwy flynedd.
Wedi’i hadeiladu’n bwrpasol i gefnogi pobl sy’n aml yn wynebu rhwystrau wrth gyrchu triniaethau – gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda dementia, canser, awtistiaeth, symptomau menopos, heriau iechyd meddwl, neu gyflyrau cymhleth eraill – mae’n cynnig amgylchedd diogel, croesawgar a di-fygythiad gyda thechnoleg arloesol, ystafelloedd triniaeth modern a staff arbenigol hyfforddedig iawn.
“Mae hyn yn torri tir newydd yn y sector ac mewn addysg bellach,” meddai Vicky Edwards, Is-Bennaeth Astudiaethau Technegol.
“Does dim byd arall fel hyn yn y rhanbarth a thu hwnt. Mae’n ganolfan rhagoriaeth, gofod cymunedol a lleoliad masnachol proffesiynol i gyd mewn un – wedi’i greu i gefnogi pobl pan maen nhw ei angen fwyaf, a sicrhau bod dysgwyr gwirioneddol yn barod ar gyfer y diwydiant.”
Mae’r ganolfan wedi’i llunio mewn cydweithrediad â phartneriaid gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, grwpiau iechyd meddwl lleol, y Gymdeithas Ddiwylliannol Fwslimaidd, grwpiau caredigrwydd a ffydd, sefydliadau dementia a chlefyd Alzheimer, ac eraill sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant a chefnogaeth gymunedol.
Mae’r ganolfan eisoes wedi croesawu grwpiau iechyd meddwl, goroeswyr trais domestig, a grwpiau cymorth i fenywod ar gyfer boreau coffi a sesiynau llesiant pwrpasol – a chafodd pob un adborth cadarnhaol iawn.
Ychwanegodd Lisa Radcliffe, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy: “Y nod oedd adeiladu cyfleuster hygyrch a chefnogol lle gall gofalwyr a theuluoedd ymlacio, cael coffi, cysylltu ag eraill a theimlo’n gyfforddus tra bod eu hanwylyd yn cael triniaeth gyda staff hyfforddedig. Mae cynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.”
Dwy aelod o staff a chwaraeodd ran allweddol wrth lunio’r cyfleuster newydd yw Esther Leigh, Darlithydd Therapi Harddwch ac Arbenigwr Ecwiti, a Kelly Pasicznyk, Darlithydd Trin Gwallt ac Arbenigwr Ecwiti.
Roedd y ddwy yn ymwneud yn ddwfn â’r dyluniad a’r cynllun, dewis technoleg, addurno a nodweddion hygyrchedd i sicrhau bod y lleoliad yn adlewyrchu anghenion pob cleient, gan gynnwys y rhai a allai fod yn profi colli gwallt, sensitifrwydd cynyddol, anghenion diwylliannol, neu bryder ynghylch mannau triniaeth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf maen nhw hefyd wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol helaeth; uwchsgiliodd Esther mewn tylino oncoleg, tylino ar gyfer menopos a thriniaethau hydrafacials, tra bod y ddau ddarlithydd wedi ymgymryd â datblygiad uwch mewn gweithio gyda gwahanol weadau gwallt, cefnogi pobl â dementia, a chreu profiad urddasol a thosturiol i gleientiaid sy’n cael gofal diwedd oes.
Treulion nhw amser hefyd mewn hosbisau lleol i ddeall anghenion unigolion agored i niwed a’u teuluoedd yn well.
“Rydyn ni mor falch o’r hyn sydd wedi’i greu,” meddai Esther. “Rydyn ni wedi hyfforddi’n ddwys ac wedi meithrin ein gwybodaeth mewn meysydd arbenigol fel y gallwn ddarparu’r driniaeth o’r ansawdd uchaf mewn lleoliad gwirioneddol sensitif a chefnogol. Erbyn hyn gallwn ni roi hynny i gyd ar waith.”
“Mae’r gofod anhygoel yma yn rhoi hyder a phrofiad ymarferol i’n myfyrwyr gydag offer ac ystodau cynnyrch arloesol,” ychwanegodd Kelly.
“Mae’n eu paratoi nhw ar gyfer y diwydiant mewn ffordd dydyn ni erioed wedi gallu ei gwneud o’r blaen ac yn sicrhau bod pob cleient sy’n cerdded drwy’r drws yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu parchu, eu croesawu a theimlo’n ddiogel.”
Bydd dysgwyr o Lefel 3 yn gweithio o’r hyb un diwrnod yr wythnos fel rhan o’u hastudiaethau, gan ennill profiad byd go iawn gyda chleientiaid sydd angen triniaethau arbenigol ychwanegol megis tylino oncoleg ysgafn a delio â phryderon penodol yn ymwneud â’r croen.
Mae llwybr dilyniant hefyd ar gyfer dysgwyr a therapyddion yn y diwydiant i symud ymlaen i addysg uwch Lefel 4 mewn Nodwyddiad Croen, Plicio Cemegol ac eraill yn y dyfodol.
Dathlodd y digwyddiad lansio eu partneriaid hefyd gan gynnwys Ysgol Hyfforddi Jennifer Young, L’Oréal, Dermalogica, Elemis a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lorraine Nordmann – Awdur Therapi Harddwch ac Ymgynghorydd Habia – a Joan Scott, Prif Swyddog Gweithredol Habia: “Mae’r Ganolfan Gosmetoleg newydd yn edrych yn gwbl syfrdanol, mae wir yn amgylchedd moethus o’r radd flaenaf.
“Rydyn ni mor falch o gael bod yn rhan o ddatgelu’r cam cynta’, sydd wedi’i alinio’n ofalus gyda safonau’r diwydiant i gyflwyno gwasanaeth proffesiynol sy’n bodloni anghenion pawb. Mae hefyd yn gyfleuster arbennig i’r ardal leol, gan gyflwyno lleoliad rhagorol newydd i’r gymuned.
“Mae’r awyrgylch yn galluogi i gleientiaid a myfyrwyr deimlo’n gartrefol, gan gefnogi sgyrsiau agored yn ystod ymgynghoriadau a sicrhau bod pawb yn hyderus a bydd eu hanghenion yn cael eu bodloni.”
Ychwanegodd Sophie Towler, dysgwr Lefel 3 mewn Therapi Harddwch o’r Rhyl: “Mae’n gyfleuster anhygoel ac mae’n edrych yn wych. Mae’r ganolfan yn ddatblygedig iawn, a dwi’n edrych ymlaen at weithio yma un diwrnod yr wythnos yn ogystal â’n hastudiaethau – bydd yn brofiad gwych.”
Gyda’r galw eisoes yn tyfu, mae’r coleg yn archwilio cyfleoedd i ehangu’r ganolfan ymhellach fyth yn y blynyddoedd i ddod.