Background Splash

Gan Alex Stockton

EISTEDDFOD

Cynhelir gŵyl eleni yn Wrecsam, ac mae Coleg Cambria, sy’n darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cefnogi dysgwyr o bob gallu sy’n bwriadu mynychu’n bersonol neu’n broffesiynol.

Meddai Cyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg Cambria, Llinos Roberts – cadeirydd pwyllgor gwaith yr ŵyl a gynhelir ar 2-9 Awst fod y rhaglenni eisoes wedi cael ymateb da ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth.

Wrth i adeilad Camu’r coleg gael ei ailddatblygu’n sylweddol i ddod yn Ganolfan Ragoriaeth y Gymraeg – gan gynnwys estyniad i’r tu mewn a’r ystafelloedd dosbarth, mannau dysgu ychwanegol, caffi, technoleg o’r radd flaenaf a ‘hwb hyblyg’ i staff – dywed Llinos fod y cyrsiau wedi’u cynllunio i ddathlu dwyieithrwydd wrth helpu siaradwyr di-Gymraeg neu siaradwyr nad ydynt yn rhugl i “ymgolli’n llwyr” yn y dathliadau a’r gweithgareddau ar y Maes.

“Rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol a chofrestriadau ar gyfer y cyrsiau hyn, yn enwedig gan gyflogwyr sy’n mynychu’r eisteddfod genedlaethol eleni,” meddai.

“Byddant yn cael eu cynnal drwy gydol mis Gorffennaf ac mae sawl rhaglen wahanol ar gael i’w dewis a hynny ar-lein ac ar ein safle yn Iâl.”

Ymhlith y rhaglenni Siarad ‘Steddfod sydd ar gael mae sesiynau dydd ar wahanol lefelau o lefel mynediad i lefel sylfaen ac uwch lle gall mynychwyr ddysgu am yr eisteddfod a therminoleg allweddol.

Bydd cyrsiau wedi’u teilwra hefyd ar gael i wirfoddolwyr a sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat sydd â stondinau yn yr Eisteddfod.

“Bydd Siarad ‘Steddfod hefyd yn ymdrin â’r hanes, y diwylliant, amrywiol seremonïau a bydd hwyl ac adloniant hefyd,” ychwanegodd Llinos.

“Dyma’r ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop ac mae Cambria wrth wraidd hynny, felly rydym wrth ein bodd yn cael helpu pobl i groesawu a gwerthfawrogi’r gweithgareddau ac atyniadau drwy gydol yr wythnos.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost