Background Splash

Gan Alex Stockton

CommunityCourt-Deeside2

Mae’r coleg yn apelio yn erbyn penderfyniad gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint i wrthod cais i adeiladu cae pob tywydd ar ei safle yng Nglannau Dyfrdwy yng Nghei Connah.

Mae gan y prosiect cefnogaeth Sefydliad Johan Cruyff, sydd wedi’i ysbrydoli gan y chwaraewr diweddar o’r Iseldiroedd, Ajax, a Barcelona. Mae’r sefydliad, sy’n hyrwyddo ac yn cyflawni prosiectau chwaraeon a chwarae effeithiol ledled y byd, yn cefnogi’r cynllun ar gyfer y safle ar Ffordd Celstryn a fyddai’n cynnwys ffensys, mynediad a goleuadau perthnasol.

Mae’r cyfleuster chwaraeon newydd hefyd yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Pêl-droed Cymru – elusen annibynnol sy’n cyflawni ymrwymiad y Gymdeithas Pêl-droed Cymru i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed ysbrydoledig ledled y wlad sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol Cambria, bydd y datblygiad 1,770 metr sgwâr yn canolbwyntio ar “iechyd a llesiant y gymuned” ac yn rhoi lle i ddysgwyr ennill profiadau ymarferol ychwanegol, a hynny mewn amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys pêl-rwyd, hoci, pêl-droed a rhagor.

“Rydyn ni’n siomedig gan fod y datblygiad i bob golwg wedi’i gymeradwyo gan swyddogion cynllunio’r sir,” meddai Maria.

“Mewn perthynas â chwynion am gynnydd mewn llygredd sŵn a golau, mae’r oriau sy’n cael eu cynnig yn adlewyrchu defnydd presennol y stadiwm, felly ni fyddai hynny’n cael unrhyw effaith y tu hwnt i’r amseroedd cyfredol, ac mae’r tai 45 metr i ffwrdd o leiaf, felly nid oedd llygredd golau yn broblem chwaith.”

“Nid gae pêl-droed arferol arall i gael ei ddefnyddio gan un tîm yn unig fydd hwn; os caiff ei gymeradwyo, bydd yn gwrt aml-chwaraeon pwrpasol, pob tywydd, wedi’i gynllunio i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, chwaraeon anabledd a chynhwysol, a dyna pam ein bod ni mor benderfynol y bydd y cwrt yn cael ei gyflawni.”

“Rydyn ni’n ymwybodol o astudiaethau dros nifer o flynyddoedd y gall gostyngiad mewn mannau diogel fel hyn i bobl ifanc gyfrannu at ddiflastod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Lle mae prosiectau’n cynnig y math hwnnw o ddarpariaeth, mae effaith gadarnhaol nid yn unig ar ymddygiad ond hefyd ar iechyd a llesiant meddyliol.

“O’r adborth rydyn ni wedi’i gael yn barod, yn enwedig gan dimau lleol a chlybiau chwaraeon, mae galw am y cyfleuster hwn a thristwch gwirioneddol ynghylch y penderfyniad, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd y pwyllgor cynllunio’n ailystyried ac yn ailymweld â’n cais.”

Ychwanegodd Sean Regan, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Astudiaethau Technegol yng Nglannau Dyfrdwy: “Ein gobaith ydy y bydd yn cael ei ddefnyddio gan bobl o bob oed, yn enwedig plant lle nad oes gan eu hysgolion y cyfleusterau arbenigol hyn, gan hyrwyddo iechyd, llesiant ac ymarfer corff ar draws y coleg a’r rhanbarth.”

“Mae hyn mewn cydweithrediad â Sefydliad Pêl-droed Cymru (CFF) a’r Sefydliad Cruyff, a fydd yn ariannu’r prosiect yn rhannol, rydyn ni’n dal i obeithio’n fawr y bydd yn cael ei adeiladu eleni.”

Ym 1997, dechreuodd Johan Cruyff ei Sefydliad i annog bechgyn a merched i ddatblygu trwy chwaraeon ac ymarfer corff.

chwaraeon bach sy’n annog ac yn hyrwyddo sgil, cyflymder, gwaith tîm ac yn meithrin hyder gyda’r bêl.

Mae Glannau Dyfrdwy yn cynnig amrywiaeth o leoedd chwaraeon dan do ac awyr agored i fyfyrwyr a phobl o bob oed ar draws y rhanbarth, gan groesawu ystod eang o dimau, elusennau a sefydliadau drwy gydol y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae hyd at 20 o glybiau lleol yn defnyddio cyfleusterau Cambria ar gyfer chwaraeon gan gynnwys sgwadiau pêl-rwyd merched, tîm pêl-droed Pan-Anabledd Teigrod Cei Connah, athletwyr ac ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ewch i Sefydliad Cruyff am ragor o wybodaeth am Sefydliad Johan Cruyff, a Sefydliad Pêl-droed Cymru – Sefydliad Pêl-droed Cymru i gael gwybod rhagor am Sefydliad Pêl-droed Cymru.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost