main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A group of primary school students who completed

Cynhaliodd rhaglen Cambria Heini’r coleg sesiynau rhad ac am ddim i bobl ifanc ledled gogledd ddwyrain Cymru, wedi’i hariannu gan gynllun Haf o Hwyl £7m Llywodraeth Cymru a rhaglen Fit and Fed StreetGames.

Cynhaliodd Cambria chwe wythnos o weithgareddau oedd yn cynnwys athletau, ymarferion iechyd a ffitrwydd, pêl-droed, celf a chrefft, a dawns.

Gyda bron i 200 o bobl ifanc yn mynychu safleoedd Iâl Wrecsam a Glannau Dyfrdwy drwy gydol y gwyliau, roedd cydlynydd Cambria Heini Donna Welsh a’r hyfforddwr aml-chwaraeon Michael Vernon wrth eu boddau gyda’r nifer a fynychodd ac yn ddiolchgar i fyfyrwyr ysgolion uwchradd a cholegau am eu cefnogaeth wirfoddol.

“Mae iechyd a llesiant ein cymuned, myfyrwyr a staff ar ôl y pandemig yn hollbwysig ar hyn o bryd,” meddai Donna.

“Mae gweld effeithiau uniongyrchol Covid-19 ar unigolion a chlybiau chwaraeon wedi peri cryn ofid felly rydyn ni’n bwriadu anelu’n uwch a gwneud hyd yn oed mwy i’w helpu dros y flwyddyn nesaf.

“Rydyn ni hefyd yn deall y trafferthion ariannol y mae teuluoedd yn eu hwynebu ac roedden ni’n falch o allu cynnig gweithgareddau, bwyd a diod am ddim i’r plant, a hoffen ni ddiolch i Iceland am fod mor garedig â chyflenwi bwyd a diod i ni drwy gydol y rhaglen.

“Gan weithio mewn partneriaeth â busnesau lleol a sefydliadau’r trydydd sector, gallwn barhau i hybu llesiant ein cymunedau.”

Roedd gweithgareddau Haf o Hwyl yn rhad ac am ddim ac ar gael i blant a phobl ifanc 0-25 oed, o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru, ar gael yn y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog.

Gwnaeth dros 67,500 o blant gymryd rhan yr haf diwethaf, a dywedodd 88% o’r cyfranogwyr ei fod wedi eu helpu i fod yn fwy heini.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Yn wreiddiol, fe wnaethon ni lansio Haf o Hwyl fel ymateb i blant yn colli cyfleoedd i gymdeithasu mewn gweithgareddau ar ôl y pandemig, ond ar ôl gweld pa mor llwyddiannus oedd y cynllun, fe benderfynon ni ei gynnal eto.

“Mae mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant.”

I gael rhagor o wybodaeth am Cambria Heini, ewch i www.cambria.ac.uk/category/active-cambria neu dilynwch @colegcambria ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost