Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Award winning learner Rhys Pinder for news story 'Our £10M agriculture innovation centre launched with a prestigious prizegiving for our land-based learners'

Mae’r Hwb Arloesi o’r radd flaenaf yng Ngholeg Cambria Llysfasi wedi derbyn mwy na £5.9m gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Adeiladwyd yr adeilad carbon-niwtral deulawr gan Read Construction o Wrecsam ac mae’n cynnwys llyfrgell, ystafelloedd dosbarth, labordai, siop goffi, wal ddringo, mannau cyfarfod, atriwm, canolfan Addysg Uwch a chanolfan lles.

Dywedodd Pennaeth Llysfasi, Elin Roberts: “Rydym wrth ein bodd yn cael lansio’r Hwb Arloesi yn swyddogol ac eisiau diolch i bawb am ymuno â ni heddiw.

“Mae’r cyfleuster newydd anhygoel hwn eisoes wedi gwneud argraff wych ar fyfyrwyr a staff. O offer arloesol i ystafelloedd cyfarfod ysbrydoledig, gofod academaidd a gweithdai – mae pob cornel o’r adeilad wedi’i gynllunio’n feddylgar i gefnogi arloesedd a dysgu.

“Bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar ein cyrsiau Amaethyddiaeth AB ac AU yn elwa o addysgu rhagorol mewn amgylchedd croesawgar ac o’r radd flaenaf sydd wir yn unigryw yn yr ardal.

“Nid oes gwell amser wedi bod i ddewis Coleg Cambria ar gyfer y cam nesaf yn eich siwrnai academaidd neu broffesiynol yn y sector ffermio ac amaethyddiaeth.”

Yn ystod y digwyddiad a oedd yn cynnwys anerchiad  gan y siaradwr gwadd Abi Reader – a enillodd y wobr Arwr Ffermio: Baner dros Amaethyddiaeth Prydain yng Ngwobrau Ffermio Prydain 2024 y llynedd – cynhaliodd y coleg ei Wobrau Dysgwr y Flwyddyn.

Ymhlith yr enillwyr oedd:

Gwobr Astudiaethau Cymraeg – Tomos Morris

Dysgwr y Flwyddyn Astudiaethau’r Tir – Nichola Wright

Sgiliau Sylfaen mewn Astudiaethau’r Tir – Yr Ymdrech Orau – Charlie Hessian

Gwobr Cwmni Lifrai Cymru – Rhys Pinder

Myfyriwr y Flwyddyn: Diploma Tilhill – Gabriella Francis

Myfyriwr y Flwyddyn: Cymdeithas Goedwigaeth Frenhinol – Matthew Whitehead

Dysgwyr y Flwyddyn: Sgiliau – Lottie Bailey ac Abi Packer

Cynhaliwyd y lansiad gan Abi Reader a Bryan Williams ac mae’n dod ar ôl i Lysfasi gyhoeddi cyfres o gyrsiau AU newydd ar gyfer 2025/26.

Ymhlith y cyrsiau newydd mae Busnes ac Amgylchedd Busnes, Rheoli Prosiect Llwyddiannus, Egwyddorion Cynhyrchu Da Byw, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Peiriannau a Thechnoleg ar y Tir, a Gweinyddu Busnes Gwledig a Chyfrifyddu.

Ewch i Amaethyddiaeth < Coleg Cambria am ragor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth am Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol. Fel arall, ffoniwch 01978 515477 neu e-bostiwch au@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost