main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Northop Small Animals Centre

Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi canmol y sefydliad yn y gogledd ddwyrain – sydd â safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain – am ei fod yn “canolbwyntio’n glir ar wella profiadau dysgu” myfyrwyr.

Gwnaeth yr arolygwyr gyfeirio at “amgylchedd cymhwysol a gofalgar” Cambria a thynnu sylw at y ffaith bod “y rhan fwyaf o’r dysgwyr yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi”.

Ychwanegodd yr adroddiad: “Ar hyd y coleg, mae dysgwyr yn gwerthfawrogi’r diwylliant sy’n hyrwyddo eu hannibyniaeth a’u cynorthwyo nhw ar gyfer symud ymlaen i’r lefel nesaf a’r byd gwaith.

“Mae’r cwricwlwm yn cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n amrywio o gyswllt ysgolion i addysg uwch, sy’n cael eu datblygu gan ddefnyddio ystod eang o wybodaeth i adnabod angen, ac o ganlyniad, maent yn cynorthwyo angen dysgwyr a chyflogwyr ar hyd y rhanbarth.

“Mae’r prif weithredwr, gyda chymorth yr uwch dîm reoli, llywodraethwyr a staff wedi sefydlu cyfeiriad strategol ar gyfer y coleg sydd wedi’i seilio ar weledigaeth, cenhadaeth a nodau strategol a rennir.

“Yn sail i’r amcanion hyn yw’r ysfa i ddatblygu diwylliant agored a thryloyw ac ethos sy’n ‘canolbwyntio ar bobl’. Mae llawer o staff yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys ac maent yn teimlo’n gadarnhaol am y cyfeiriad strategol ac maent yn gwerthfawrogi’r canolbwynt cadarn ar lesiant a chymorth.”

Aeth Estyn ymlaen i ddweud bod y coleg yn darparu ar gyfer anghenion ei gymunedau ac mae ganddo “bartneriaethau sydd wedi’u datblygu’n dda gydag ystod eang o randdeiliaid” gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, colegau addysg bellach, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, partneriaeth sgiliau rhanbarthol a chyflogwyr.

Ychwanegodd Estyn bod gan uwch dîm rheoli’r coleg ganolbwynt clir ar “wella’r profiad dysgu” gan ddefnyddio “gweithdrefnau gwella ansawdd cynhwysfawr” i lywio eu harferion.

Roedd Prif Weithredwr Cambria Yana Williams wrth ei bodd i gael arolygiad cadarnhaol a chafodd hithau ganmoliaeth am y cynnydd sydd wedi’i wneud ers iddi gyrraedd ychydig o wythnosau cyn i bandemig Covid-19 ledaenu yn y DU tair blynedd yn ôl.

“Rydyn ni’n falch iawn bod Estyn wedi nod i gydnabod y meysydd rydyn ni wedi’u gwella a’n bod wedi gweithio’n galed i roi’r profiad academaidd a chymdeithasol gorau posib, mewn amgylchedd cynnes, a chroesawgar,” meddai Ms Williams.

“Wrth gwrs, mae meysydd y byddwn ni’n eu targedu er mwyn codi ein safonau hyd yn oed yn uwch – mae ein staff a’n tîm arwain yn gwneud eu gorau glas i godi’r safonau – ond maen nhw wrth eu bodd gyda’r adroddiad a diolch i Estyn am eu hadborth a’u cymorth yn ystod y broses.”

I weld rhagor o wybodaeth a newyddion gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost