main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

AbiandAdamCAMBRIA

Gwnaeth Abi Stansfield, o Ribble Valley, Sir Gaerhirfryn, hyfforddi ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam am ddwy flynedd cyn mynd i’r Almaen ar gyfer rownd terfynol WorldSkills 2022.

Gwnaeth Abi fethu ei chyfle i gael medal o drwch blewyn yng nghategori Melino CNC, ond gyda chymorth darlithydd Cambria Adam Youens – Rheolwr Hyfforddi CNC ar gyfer WorldSkills – gwnaeth hi ddangos dewrder a llawer o sgil a dawn ar ôl iddi wella wedi damwain beic modur yr hydref diwethaf.

“Ar ôl hyfforddi am dair blynedd roeddwn i mor falch o allu cynrychioli fy ngwlad o’r diwedd a chodi’r faner, roedd yn gwireddu breuddwyd,” meddai Abi, sy’n gweithio fel gwneuthurwr offer yn BAE Systems, Blackburn.

“Yn anffodus cefais i ddim medal, ond roedd yn brofiad anhygoel, fyddai byth yn ei anghofio.”

Mae Adam yn llongyfarch Abi am ddangos gwytnwch yn ystod y pandemig ac am addasu pan gafodd cystadleuaeth WorldSkills Shanghai ei chanslo oherwydd Covid-19.

“Mae taith Abi wedi bod yn hir, gan ddechrau yn y gystadleuaeth genedlaethol yn 2019 pan enillodd hi fedal efydd a chafodd hi ei dewis i fod yn rhan o dîm y DU,” meddai.

“Gwnaeth hi dreulio dros 18 mis yn hyfforddi gyda thri arall a oedd yn cystadlu yn y categori hwnnw – yn bennaf ar ein safle yn Ffordd y Bers, lle mae’r cyfleusterau’n cynnwys yr holl beiriannau diweddaraf o’r radd flaenaf – ar gyfer yr un lle i gynrychioli’r DU yn Shanghai.

“Yn 2021 cafodd ei dewis i fynd i gystadleuaeth EuroSkills, ac eto digwyddodd rhwystr arall pan benderfynodd y DU i beidio â mynd oherwydd y pandemig.

“Mis yn ddiweddarach roedd hi mewn damwain beic modur a achosodd niwed i’w phen-glin, ond trwy’r hyn oll fe roedd hi’n parhau i ganolbwyntio a bod yn benderfynol a pharhau i hyfforddi o gartref neu ar-lein cymaint ag y gallai.”

Ychwanegodd Adam: “Gwnaeth Abi weithio’n galed i wella ei phen-glin ar ôl iddi gael llawdriniaeth i’w drwsio, a helpodd hi i fynd yn ôl ar ei thraed a dechrau hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth Arbennig yn Leonberg, yr Almaen, ychydig wythnosau’n ôl.

“Roedd Abi dim ond un pwynt i ffwrdd o ennill medal, ond mae hi wedi bod yn rhagorol trwy’r hyn oll ac mae hi wedi cystadlu ar y lefel uchaf yn y byd – rydyn ni mor falch ohoni.”

Bydd Cambria yn cynnal rownd derfynol WorldSkills yn y dyddiau nesaf, sef rowndiau terfynol Her y Tîm Gweithgynhyrchu yn Ffordd y Bers.

Mae Rheolwr Profiad Dysgwyr a Menter, Rona Griffiths, yn canmol Abi am ei hymdrech ac Adam am y cymorth mae’n ei roi i’r dysgwyr peirianneg.

“Mae hon yn stori wych am ddatblygu sgiliau oherwydd ni wnaeth Covid-19 atal Abi ac Adam, ond yn hytrach sbarduno eu huchelgais a’u hangerdd i ymdrechu am rywbeth y tu hwnt i ddychymyg y rhan fwyaf o bobl yn ystod y cyfnod clo,” meddai.

“Roedd hi o fewn trwch blewyn o ennill medal, ond mae hi’n fodel rôl ragorol i beirianwyr ifanc, yn enwedig merched.”

Ychwanegodd Rona: “Mae’n dyst i sgiliau gwych Adam fel addysgwr ac eiriolwr dros ddatblygu sgiliau galwedigaethol. Mae’n wir yn llysgennad dros ragoriaeth sgiliau a pha mor fuddiol yw cystadlaethau sgiliau i bobl ifanc.”

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost