main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Ers cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth – a fydd yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd dros dridiau o ddydd Gwener yma – mae Jess Downes wedi ymweld ag ysgolion, wedi cynnal digwyddiadau elusennol, ac wedi ymgymryd â sawl her.

Yr hyn oll wrth jyglo ei hastudiaethau academaidd yng Ngholeg Cambria a lleoliad gwaith yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae Jess sy’n 23 oed ar fin gwneud y paratoadau olaf ac yn edrych ymlaen at gynrychioli sir Conwy a cheisio dod â’r teitl i’r Gogledd.

“Rydyn ni wedi bod mor brysur ers i’r rhestr fer gael ei chyhoeddi, mae wedi bod fel ffair, ond dwi wedi bod wrth fy modd, buaswn i byth yn ei newid,” meddai Jess o Dowyn.

“Dwi’n nerfus ar gyfer y gystadleuaeth ond yn gyffrous iawn a beth bynnag fydd y canlyniad, dwi’n falch iawn o bopeth rydw i a’r cystadleuwyr eraill wedi’i gyflawni, yn enwedig hyfforddi i fod yn llysgennad ar gyfer Women’s Aid.”

Ychwanegodd hi: “Mae bod yn rhan o Miss Wales wedi rhoi llwyth o gyfleoedd i mi, a buaswn i byth wedi gallu llwyddo heb gefnogaeth anhygoel gan fy nheulu, fy nghariad Angus, Coleg Cambria a phawb yn Toyota.

“Hoffwn i barhau i dorri’r ystrydeb, ac ysbrydoli merched ifanc eraill i fynd i weithio yn y maes peirianneg a’r pynciau STEM eraill. Dwi am brofi y gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi’n dymuno os rydych chi’n ddigon penderfynol, ni waeth beth sy’n rhaid i chi ei wynebu mewn bywyd.”

Pan oedd Jess yn ei harddegau, roedd hi’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac anorecsia ond mae hi wedi brwydro ac yn hapusach ac yn canolbwyntio ar ei nodau yn fwy nag erioed.

Effeithiodd y pandemig arni’n galed gan iddi golli swydd fel aelod o griw awyren gyda chwmni awyrennau blaenllaw rhyngwladol. Oherwydd hyn roedd rhaid iddi ailfeddwl ei dyfodol. Roedd Jess wrth ei bodd gyda phynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) a TGCh, felly penderfynodd hi ddilyn llwybr prentisiaeth – mewn sector sy’n cael ei arwain gan ddynion yn draddodiadol – nid yw Jess wedi edrych yn ôl ers hynny ac mae hi’n dweud bod ei chydweithwyr wedi bod yn “hynod o gefnogol”.

“Mae fy nghyd-ddisgyblion wedi bod yn gefn i mi ar hyd y daith a gwnaethon nhw gymryd rhan mewn her beic yn y coleg i fy helpu i godi arian ar gyfer yr elusen enwebedig, Beauty with a Purpose,” meddai Jess.

“Hyd yn hyn dwi wedi codi dros £1500 wrth wneud heriau corfforol ac ocsiynau, digwyddiadau, rafflau, gwerthu cacennau a gweithgareddau eraill, a dwi mor ddiolchgar i gymaint o bobl.

“Mae’n rhaid i mi ddiolch i’r coleg am fy noddi ac am y gefnogaeth, yn enwedig fy nhiwtoriaid, y tîm yn Toyota a’r cefnogwyr a’r partneriaid gan gynnwys Dragon Drilling a Karen Lesley Bridal Emporium.

“Yn olaf, diolch yn fawr iawn i Sue Smith sy’n ffrind teulu, a Jodie James, athrawes yn fy nghyn ysgol gynradd Ysgol Maes Owen, am eich holl garedigrwydd a chefnogaeth dros y misoedd diwethaf.

“Beth bynnag fydd yn digwydd y penwythnos yma, mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn a dwi wedi magu hyder i barhau i wneud fy ngorau glas.

“Dyma’r neges bwysicaf i mi, ac i unrhyw ferched ifanc sydd eisiau cael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro eu llwyddiant – mae’n bosib – ewch amdani!”

Ewch i’r dudalen JustGiving i noddi Jess: www.justgiving.com/fundraising/jessica-downes12. Tecstiwch WELSH JESSICA i 64343 i bleidleisio ar gyfer Jess.

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost