main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

IMG_1202

Mae dysgwyr Coleg Cambria Phoebe Davies a Georgia Scarisbrick wedi sicrhau lleoedd ym Mhrifysgol Rhydychen yn dilyn canlyniadau Safon Uwch rhagorol.

Mae Phoebe, o’r Hob, am ddechrau astudio gradd mewn Archaeoleg ac Anthropoleg ar ôl cael graddau A* mewn Drama, Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg ac A yn nhystysgrif Bagloriaeth Cymru (her sgiliau).

Mae Phoebe yn 18 oed ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, dywedodd: “Dwi’n edrych ymlaen at astudio Archaeoleg ac Anthropoleg yn Rhydychen, mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir a dwi’n gyffrous iawn am hynny.”

Llwyddodd Georgia, sy’n 18 oed, o Fflint, i gael graddau A* mewn Gwleidyddiaeth a Llenyddiaeth Saesneg, A mewn Hanes a Bagloriaeth Cymru.

Mae hi’n gyn-ddisgybl yn ysgol uwchradd y dref, a bydd hi’n dechrau ar radd BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth fis nesaf a dywedodd: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy astudiaethau yn Rhydychen, mae’n anhygoel fy mod wedi llwyddo i gyrraedd yno.

“Dwi wedi breuddwydio am weithio ym maes gwleidyddiaeth ers erioed, ac mi fydd hynny’n ddiddorol yn sicr! Mae fy nheulu mor falch, dydyn ni methu coelio’r peth ond rydyn ni wrth ein bodd.”

Ychwanegodd Georgia: “Dwi mor ddiolchgar i bawb o Lannau Dyfrdwy, pe bawn i heb ddod yma, yn fwy na thebyg buaswn i ddim wedi gwneud cais. Maen nhw wedi fy helpu i gymaint gyda ffug gyfweliadau a fy natganiad personol ac mi fydda i’n ddiolchgar am byth.”

Dywedodd Miriam Riddell, Pennaeth Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy mai dyma’r tro cyntaf i ddau fyfyriwr o’r safle yng Nghei Connah gael lle yn y brifysgol o fewn yr un flwyddyn ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost