Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

LouisJones1

Mae Louis Jones yn paratoi i gymryd y cam cyffrous nesaf yn ei daith academaidd ar ôl derbyn cynnig i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Durham — un o sefydliadau gorau’r DU ar gyfer y pwnc.

Gan astudio Safon Uwch mewn Ffiseg, Mathemateg a Mathemateg Bellach yng Ngholeg Cambria Iâl, mae’r cyn-ddisgybl 18 oed o Ysgol Bryn Alyn eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun ym myd ffiseg.

Enillodd Wobr Aur fawreddog yn Olympiad Ffiseg Prydain, cystadleuaeth genedlaethol gystadleuol iawn sy’n cydnabod talent eithriadol a’r gallu i ddatrys problemau ymhlith myfyrwyr chweched dosbarth.

Mae Louis yn priodoli llawer o’i lwyddiant i’r gefnogaeth y mae wedi’i chael gan Goleg Cambria: “Mae’r staff wedi bod yn hynod gefnogol ac ymroddedig wrth ein helpu ni i gyflawni ein nodau.

“Pe bawn i ddim yn Cambria, fyddwn i heb gael y cyfle i gymryd rhan yn yr Olympiad na mynychu’r digwyddiadau anhygoel y gwnaethon nhw fy helpu i gysylltu â nhw.”

Cafodd ei ddewis hefyd ar gyfer digwyddiad preswyl ffiseg a pheirianneg tri diwrnod yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, lle archwiliodd bynciau arloesol fel cyseiniant Helmholtz a thechnegau peirianneg llongau gofod seiliedig ar origami a ddefnyddir gan NASA — profiad a ddyfnhaodd ei angerdd dros wyddoniaeth.

Yn y dyfodol, mae Louis yn gobeithio gwneud PhD a chael gyrfa mewn ymchwil ffiseg mewn prifysgol, gyda diddordeb hefyd mewn addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol o ffisegwyr.

Ei ysbrydoliaeth yw’r ffisegydd chwedlonol Richard Feynman ac un diwrnod mae’n gobeithio meistroli set gyflawn o ddarlithoedd prifysgol Feynman.

Diolchodd Louis ei ddarlithwyr Rob Jones ac Ekundayo Akinduro (Ffiseg), Alistair Nicholls (Mathemateg), a Nora Richardson, a ddarparodd arweiniad arbenigol drwy gydol y broses ymgeisio a threfnu cyfweliadau ffug gydag arbenigwyr allanol.

“Rydw i wedi tyfu cymaint yng Ngholeg Cambria – nid dim ond yn academaidd, ond fel person. Fedra’i ddim aros i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig,” ychwanegodd.

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am astudio ar gyfer Safon Uwch yng Ngholeg Cambria. Fel arall, anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch yr adnodd Sgwrsiwch rŵan! | Cymorth i Gwsmeriaid ar y wefan.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost