main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Bydd draig pedwar metr o uchder wedi’i gwneud o filoedd o arfau yn chwythu tân i ymgyrch ymwybyddiaeth cyllyll
KDjohnfreeman

Mae’r cerflun metel trawiadol yn cael ei adeiladu ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria, mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam.

Mae’r darlithydd John Freeman a’r myfyrwyr wedi bod yn weldio a gwneuthuro eitemau wedi’u hatafaelu yn ddiogel – gan gynnwys cleddyfau samurai, bidogau, cyllyll cegin a dyrnau haearn – a’u hadeiladu ar fframiau dur.

Mae’n disgwyl i’r cerflun – sef un o ddraig yn amddiffyn plentyn – gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

Yna, bydd yn cael ei osod ar blinth o lechi Cymreig o flaen Sefydliad Technoleg y coleg, gyda goleuadau coch, gwyn a gwyrdd i gynrychioli’r ddraig yn eistedd ymhlith gweddillion Castell Cymreig.

Yn ddiweddarach bydd yn cael ei ddefnyddio fel prif eitem ar gyfer gwaith amlasiantaeth ledled y wlad, gan addysgu pobl ynglŷn â pheryglon troseddau cyllyll.

“Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda, mae’r ddraig wir wedi dod at ei gilydd ac er bod gennym ni luniau o sut fydd hi’n edrych, mae wedi golygu llawer o greadigrwydd a dychymyg hefyd,” meddai John.

“Mae ein dysgwyr ifanc wedi bod yn fy helpu i lunio’r metel a’r weldio, felly yn ogystal â rhoi’r cerflun anhygoel hwn at ei gilydd – a fydd yn gwneud cymaint i hyrwyddo peryglon troseddau cyllyll – mae’n datblygu eu sgiliau ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol a bydd yn waddol anhygoel iddyn nhw ac i Goleg Cambria.”

Mae Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle yn Ffordd y Bers, wedi bod yn cynnal sgyrsiau rheolaidd am arfau troseddol a throseddau cyllyll gyda dysgwyr yn y coleg.

Dywedodd y bydd y ddraig – sydd heb gael ei henwi eto – yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi ymgyrchoedd yr heddlu ac awdurdodau lleol.

“Fel gwaith celf, mae’n gwbl syfrdanol, mae John a’r dysgwyr wedi gwneud gwaith anhygoel,” meddai Karl.

“Maen nhw wedi gwneud cymaint o gynnydd er bod hon yn broses lafurus, gan fod y ddraig wedi’i saernïo a’i hadeiladu gydag iechyd a diogelwch yn brif flaenoriaeth.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi bod yn casglu’r arfau yn rheolaidd, sydd wedi cael eu hatafaelu neu eu rhoi i’r heddlu, ers cwpl o flynyddoedd erbyn hyn ac mae’r nifer yn eitha’ syfrdanol. Mae’n bwysig cael gwared ar y cyllyll hyn oddi ar y strydoedd a gwneud defnydd da ohonyn nhw.

“Mae rhai o’r llafnau a’r arfau hefyd yn cael eu defnyddio’n ddiogel mewn cyflwyniadau a sgyrsiau gyda’n dysgwyr, er mwyn i ni allu codi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n fater cenedlaethol.”

Disgrifiodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Wrecsam, y cerflun fel “darn o gelfyddyd trawiadol” a dywedodd: “Bydd y Ddraig Cyllyll, a ysbrydolwyd gan yr Angel Cyllyll a ymwelodd â Wrecsam yn 2022, yn ein hatgoffa o’r effaith ddinistriol y gall troseddau cyllyll ei chael ar ein cymunedau.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cerflun gorffenedig ac rwy’n gwybod y bydd yn offeryn gwerthfawr ym maes addysg ieuenctid yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Heidi Stokes: “Er bod troseddau cyllyll yn parhau i fod yn isel yn Wrecsam, diolch byth, mae’n bwysig i ni gyd weithredu i leihau hyd yn oed rhagor arnyn nhw.

“Mae cyllyll yn beryglus a does dim lle iddyn nhw ar ein strydoedd. Mae gan bob digwyddiad sy’n ymwneud â chyllell ganlyniadau i bawb dan sylw, ac felly mae hwn yn fater rydyn ni’n ei gymryd yn wirioneddol o ddifri’.

“O’r herwydd, mae’n arbennig o bwysig ein bod yn gallu creu cyfleoedd i dynnu sylw at droseddau cyllyll a’r hyn y gallwn ei wneud i’w hatal.

“Mae’r Ddraig Cyllyll yn cynnig ffordd y gallwn ni weithio gyda’n partneriaid ar brosiect a allai atal trychineb arall, wedi’i gwneud gydag arfau rydyn ni wedi’u cipio oddi ar ein strydoedd; fyddan nhw byth yn gallu niweidio unrhyw un eto.

“Trwy weithio gyda’n partneriaid, byddwn yn parhau i addysgu, gorfodi a gweithredu ar unrhyw wybodaeth a gawn er mwyn dod â’r rheini sy’n ymwneud â’r math yma o droseddu o flaen eu gwell.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at karl.jackson@cambria.ac.uk neu ewch i www.cambria.ac.uk.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am droseddau cyllyll, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, ewch i www.fearless.org/en/give-info.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost