Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

an adult tutor standing behind an adult learner who is sat down on their laptop at a desk which the tutor is pointing too

Bydd sesiynau gwybodaeth yn cael eu cynnal yng Nglannau Dyfrdwy, Ffordd y Bers ac Iâl yn Wrecsam, ddydd Mercher 4 Mehefin o 4pm-7pm.

Darganfod Rhagor – https://www.cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiadau-agored-addysg-i-oedolion/?lang=cy

Mae’r coleg yn cynorthwyo darpar ddysgwyr sy’n oedolion sydd eisiau ail hyfforddi ac ennill sgiliau, neu unrhyw un sy’n bwriadu newid gyrfa, yn chwilio am hobi newydd, neu sy’n dymuno symud ymlaen yn eu rôl bresennol, naill ai’n uniongyrchol neu drwy bartneriaeth â Chanolfan Prifysgol Cambria â Phrifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol John Moores Lerpwl.

Dywedodd y Pennaeth Sue Price: Os ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd neu wella eich sgiliau a’ch gallu yna mae ein digwyddiadau agored yn ffordd wych i ddarganfod rhagor am ddysgu yng Ngholeg Cambria.

“Yn ogystal â chyrsiau rhagarweiniol mae gennyn ni raglenni lefel gradd ran-amser a llawn amser yng Nghanolfan Brifysgol Cambria, cyrsiau hamdden a hobi a chyfleoedd i ddysgu Cymraeg gyda’r rhaglen Cymraeg i Oedolion.”

Ymysg y cymwysterau rhan-amser newydd mae Cyflwyniad i Serameg; Sgiliau Weldio Rhagarweiniol; Ffrangeg Sgyrsiol; Trefnu Blodau; Cyflwyniad i Roboteg Ddiwydiannol; Magu Hyder i Ddefnyddio Cyfrifiaduron, ac Arwain a Rheoli.

Mae cyrsiau ar gael am ddim mewn Saesneg, Mathemateg, TG a Sgiliau Cyflogadwyedd, yn amodol ar gymhwysedd.

Mae Mrs Price yn awyddus i weld rhagor o bobl yn cymryd rhan mewn “dysgu gydol oes” yn dilyn adroddiad gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, sy’n cynhyrchu Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu blynyddol.

Roedd astudiaeth 2023 wedi datgelu mai 41% o oedolion yng Nghymru oedd wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o ddysgu o gymharu â 49% ar draws y DU.

“Mae cymaint o opsiynau gyda Choleg Cambria sy’n cael gwared ar rwystrau i ddysgu, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn cysylltu i gael gwybod rhagor,” meddai Mrs Price.

“Mae llawer o’r cyrsiau hyn wedi’u hariannu’n llawn, yn hyblyg, ac yn ymwneud ag ystod eang o sectorau a gyrfaoedd. Mae rhywbeth at ddant pawb, a bydd ein staff wrth law i’ch cynorthwyo chi a siarad â chi am ffactorau pwysig eraill, gan gynnwys cyllid.”

Ychwanegodd: “Waeth beth ydy eich oedran neu’ch cefndir, prif ffocws Coleg Cambria ydy cyfleoedd a dyheadau.

“Gallai’r digwyddiadau agored hyn fod yn sbardun sy’n dechrau pennod newydd i ddarpar fyfyrwyr ar draws y rhanbarth, felly rydyn ni’n gobeithio eich croesawu chi a rhannu rhagor o wybodaeth gyda chi ar y diwrnod. Os nad ydych chi’n gallu dod, ewch i’r wefan neu rhowch alwad i ni er mwyn i chi gael gwybod rhagor.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol ac ewch i’r wefan:www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost