main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

Cambria Fest

Cafodd gŵyl CambriaFest ei threfnu gan y tîm Llais Myfyrwyr yng Ngholeg Cambria, sy’n cynllunio cynnal y digwyddiad yn flynyddol.

Roedd y rhaglen ddeuddydd yn cynnwys cerddoriaeth byw, atyniadau a gweithgareddau a chafodd ei chynnal ar safleoedd Cambria yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl, Wrecsam.

“Yn hytrach na chael dawns ddrud neu seremoni draddodiadol i nodi diwedd y flwyddyn academaidd, gwnaeth y myfyrwyr awgrymu rhywbeth mwy cynhwysol, a dyna le ddaeth y syniad ar gyfer CambriaFest,” meddai Swyddog Ymgysylltu â Llais Myfyrwyr, Mark-Ryan Hughes.

“Roedd yr ŵyl am ddim ac roedd cerddorion y coleg yn chwarae yno a’r band Break the Record, roedden nhw’n hollol wych.

“Daeth myfyrwyr o Lannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llaneurgain a Llysfasi ac roedd gennym ni lwyth o adloniant gan gynnwys bwytäwr tân, ystudfachwr a gweithdai sgiliau syrcas, yn ogystal â pharth llesiant, cwrs antur, faniau bwyd a diod, mentoriaid Syniadau Mawr Cymru a llawer rhagor.”

Ychwanegodd: “Yn ystod y diwrnodau i ddilyn gwnaethom ni anfon holiadur i’r myfyrwyr a wnaeth ddod i’r digwyddiad, roedd yr adborth yn datgelu bod dros 80% ohonyn nhw wedi mwynhau CambriaFest.

“Roedd yr ymatebion hefyd yn dangos bod 50% yn dweud bod y digwyddiad wedi cael effaith cadarnhaol ar eu hiechyd meddwl ac roedd 75% yn teimlo ei fod wedi codi eu hysbryd yn dilyn y cyfnod arholiadau, sy’n gallu achosi llawer o straen i lawer o bobl.

“O ganlyniad i hyn a chanmoliaeth arall ar gyfer y digwyddiad rydyn ni’n sicr yn cynllunio ei gynnal eto’r flwyddyn nesaf gyda hyd yn oed rhagor o weithgareddau a rhaglen orlawn gyda phwyslais parhaus ar iechyd, llesiant a hapusrwydd dysgwyr Cambria.”

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at studentvoice@cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost