main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

GarethButler

Yn dilyn llwyddiant ysgubol arddangosfa gyntaf masnach a Thatŵ Rhyngwladol Prydain y llynedd a gynhaliwyd ar safle Iâl Cambria yn Wrecsam, bydd yn dychwelyd eto ym mis Hydref.

Bydd sioe eleni – Pasiant Cerddorol Milwrol Gogledd Cymru – A Reel of Remembrance – yn cael ei pherfformio am un noson yn unig er budd cymdeithas The Not Forgotten, elusen sy’n gweithio i gefnogi cyn-filwyr ac i frwydro yn erbyn unigedd ac unigrwydd ymysg cymuned y Lluoedd Arfog am y 100 mlynedd ddiwethaf.

Ymhlith y rhai fydd yn ymddangos mae Band Catrawd a Chorfflu Drymiau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Mascotau Catrawd Y Fyddin Brydeinig, Cymdeithas Corfflu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Côr y Gwragedd Milwrol, Drymiau Batala Bangor, a’r Emma May School of Irish Dance, Cei Connah.

Hefyd ar y llwyfan bydd yr unawdydd Ava Gordon Butler, yn dynn ar sodlau chwarae prif ran Matilda ym Matilda: The Musical ac Young Fiona yn Shrek the Musical.

Mae’r cynhyrchydd Gareth Butler wrth ei fodd yn dychwelyd i ogledd-ddwyrain Cymru gyda’r cynhyrchiad, a dywedodd: “Mae’n bleser pur cael gweithio gyda chast mor wych ac amrywiol, ac mae ambell syrpreis arall yn aros am y gynulleidfa.

“Gan adeiladu ar lwyddiant sioe y llynedd rydyn ni hefyd yn hynod o falch o gael croesawu llu o arddangoswyr y gall ymwelwyr eu mwynhau cyn y sioe ac yn ystod yr egwyl.

“O arddangosfeydd rhithwir wedi’u darparu gan y Gwasanaethau Arfog i grefftwyr lleol a chyflenwyr bwyd, diod a chrefftau o ansawdd gwych, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.”

Ychwanegodd: “Bydd cerbydau milwrol, beiciau modur, cymdeithasau catrawd, ac elusennau cyn-filwr yn bresennol, yn arddangos y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud i’n cyn-filwyr – mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel arall.

“A diolch yn fawr i’n noddwyr. Heb eu cefnogaeth nhw fyddai digwyddiad fel hyn ddim yn bosib.”

Roedd David Cowley, Cadeirydd cymdeithas The Not Forgotten, yn cytuno, a dywedodd: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Tatŵ Rhyngwladol Prydain wedi dewis cefnogi The Not Forgotten unwaith yn rhagor. Oherwydd nid yn unig y mae cyngherddau a phasiantau milwrol yn rhan bwysig o ddiwylliant y DU, ond mae arwyddair y cyngerdd yn cyd-fynd yn berffaith â’r hyn y mae’r elusen yn ymdrechu i’w gyflawni – Hospitalitatem Honorare! I Ddiddanu ac Anrhydeddu.”

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 22 Hydref o 6.30pm.

Am docynnau ewch i https://www.ticketsource.co.uk/thenorthwalesmilitarymusicpageant-britishinternationaltattoo am ragor o wybodaeth, ewch i, ewch i www.britishinternationaltattoo.com neu ffoniwch 0333 666 3366.

Os am gael pryd cyn y cyngerdd ym mwyty iâl, ewch i www.ialrestaurant.co.uk.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf gan Coleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost