main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

SilentMeal1

Caiff y cymhwyster FdA mewn Rheoli Twristiaeth a Lletygarwch ei gyflwyno gan Goleg Cambria ac mae wedi cael ei ailwampio i fodloni gofynion y diwydiant ar ôl Covid.

Gallai dysgwyr astudio am ddwy flynedd ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam cyn cwblhau trydedd flwyddyn atodol ar y radd BA (Anrh) mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol neu gwrs perthnasol ym Mhrifysgol Liverpool John Moores (LJMU).

Dywedodd Angharad Jarvis, Arweinydd y Rhaglen bod ystod eang o yrfaoedd yn bodoli ar gyfer graddedigion, ac mae rhagor o gyfleoedd nag erioed mewn amrywiaeth o swyddi, o reolwyr bwyty a staff bar i gymhorthwyr parc hamdden, ymgynghorwyr teithio, trefnwyr digwyddiadau a rhagor.

“Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i hyrwyddo a meithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo mewn twristiaeth a lletygarwch, a dwi’n meddwl bod llawer o bobl yn anymwybodol o faint o opsiynau gwahanol sydd ar gael,” meddai Angharad.

“Wrth gwrs, mae yna swyddi mewn rolau traddodiadol, ond hefyd marchnata, TG, cyfryngau cymdeithasol, rheoli a nifer fawr o swyddi mewn lleoliadau hyd a lled Cymru a thu hwnt.

“Mae’r sector wedi wynebu heriau ond mae’n un o’r sectorau pwysicaf yn y DU – yn enwedig yma yng Ngogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin – ac mae’n faes cyffrous a gwerth chweil i fod yn rhan ohono.”

Datgelodd Angharad fod tîm y rhaglen wedi creu cysylltiadau gyda chyflogwyr ar draws y rhanbarth – yn arbennig Cae Ras Caer, gwesty a bwyty The Lemon Tree yn Wrecsam, a Pale Hall yn Bala – ac mi fydd lleoliadau gwaith yn ffactor allweddol, yn ogystal â Bwyty Iâl poblogaidd y coleg sydd wedi’i leoli yn adeilad Hafod sydd werth £20 miliwn yn Iâl.

Bydd y cyswllt gyda LJMU hefyd yn hollbwysig ar gyfer cynorthwyo dysgwyr i’r “lefel nesaf” a’u paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith.

Mae modiwlau’n cynnwys Twristiaeth Cymru, Rheoli Bwyd a Diod mewn Lletygarwch, Cyflwyniad i Dwristiaeth Ryngwladol, Trefnu Digwyddiadau, Sgiliau Cyflogadwyedd, Twristiaeth Gyfrifol a Chynaliadwyedd, a Sgiliau Academaidd a Llythrennedd Digidol.

“Mae myfyrwyr yn gallu dechrau eu taith addysg uwch yn Cambria a datblygu’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer Lefel 4 a Lefel 5,” meddai Angharad.

“Yna maen nhw’n gallu ffitio’n syth i mewn gyda’r dysgwyr LJMU ar eu safle a pharhau gyda’u hastudiaethau Lefel 6 i gwblhau BA yn eu maes dewisol, a allai fod yn unrhyw beth o Reoli Digwyddiadau i Dwristiaeth Ryngwladol.”

Ychwanegodd hi: “Rydyn ni’n cyflwyno’r cwrs mewn modd cyfannol, sy’n helpu ein dysgwyr i gyflawni eu nodau, ac ar ben hynny maen nhw’n gallu cwblhau astudiaethau ychwanegol fel Gwobrau Efydd ac Arian Llysgennad Wrecsam, yn ogystal â chefnogi elusennau lleol.

“Rydyn ni’n dechrau gyda’r nod ar y diwedd, sef dyfodol mewn twristiaeth a lletygarwch – mae’n amser cyffrous i ymuno â ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r grŵp nesaf yn hwyrach ymlaen eleni.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost