Wedi’i leoli yng nghanol y Ganolfan Iechyd a Llesiant newydd gwerth £14m yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, mae Sba Iâl yn cynnwys cyfleusterau o safon diwydiant; mae wardiau ysbyty efelychiadol ac amgylcheddau rhithrealiti i’w cael ochr yn ochr ag Ystafell Thermol gyda sawna, ystafell stêm, jacuzzi a bar bwyd iach.
Mae’r adeilad blaengar hefyd yn cynnwys sba masnachol ac ystafelloedd triniaeth sy’n cynnig pecynnau pampro pwrpasol er mwyn i gwsmeriaid fwynhau triniaethau i’r wyneb a’r corff, tylino a rhagor.
Mae Vicky Edwards, Is-bennaeth Sgiliau Technegol, wrth ei bodd yn gweld y weledigaeth yn cael ei gwireddu gan ddweud y bydd y lleoliad yn torri tir newydd ym meysydd Harddwch a Therapïau Cyflenwol ac addysg Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.
“Mae’r rhain yn bynciau sy’n draddodiadol wedi cael eu haddysgu yn y dosbarth, lle nad oedd dysgwyr yn cael gwir ymdeimlad o amgylchedd sba go iawn mewn amser real,” meddai Vicky.
“Ond rŵan mi fydd dysgwyr yn ymdrin â chwsmeriaid mewn amgylchedd sy’n gymharol ag unrhyw un o’r canolfannau sba a ffitrwydd gorau yn yr ardal.”
Dywedodd “Am gyfle anhygoel i’n myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol a fydd yn gallu symud yn eu blaenau o’r Coleg yn llawn hyder ac yn barod ar gyfer y diwydiant. Bydd ein dysgwyr hefyd wedi elwa ar ein partneriaethau gyda rhai o enwau blaenllaw’r sector, fel Dermalogica, Elemis, Made for Life Organics a The Goodwash Company.”
“Byddan nhw’n profi breuddwyd pob dysgwr ifanc sydd yn anelu at ddyfodol yn y diwydiant hwn ac rydyn ni’n annog darpar fyfyrwyr i ymweld â ni os ydyn nhw’n ystyried gyrfa ym maes iechyd a harddwch.”
Er bod Sba Iâl yn hafan o lonyddwch ymlaciol, mae’r gwerthoedd craidd yn canolbwyntio ar fyw’n iach, maethiad, iechyd da a hunanofal, gyda thriniaethau’n cael eu hargymell i drin cyflyrau corfforol a meddyliol fel gorbryder ac iselder.
Yn ystod cyfres o ddigwyddiadau lansio’r wythnos diwethaf cafodd y lleoliad ei ddisgrifio fel un sydd yn “gosod safonau” ar gyfer therapïau ac addysg gofal iechyd gan gwmnïau o feysydd cysylltiedig, addysgwyr, cleientiaid, busnesau, arweinwyr dinesig a sefydliadau partner.
Roedd Sarah Edwards, Rheolwr Masnachol Gwallt a Harddwch, yn falch dros ben o glywed hyn. Mae Sarah, Vicky, a’r tîm wedi gwirioni yn gweld blynyddoedd o waith cynllunio a gweledigaeth yn dwyn ffrwyth mewn cyfleuster mor drawiadol. Cwblhawyd y safle yn ystod yr haf gan gwmni Wynne Construction o Fodelwyddan sydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu’r safle Hafod gyfagos sydd werth £21 miliwn.
Roedd Sarah Edwards, Rheolwr Masnachol Gwallt a Harddwch, yn falch dros ben o glywed hyn. Mae Sarah, Vicky, a’r tîm wedi gwirioni yn gweld blynyddoedd o waith cynllunio a gweledigaeth yn dwyn ffrwyth mewn cyfleuster mor drawiadol. Cwblhawyd y safle yn ystod yr haf gan gwmni Wynne Construction o Fodelwyddan sydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu’r safle Hafod gyfagos sydd werth £21 miliwn.
“Mae’r wardiau meddygol yn benodol ar y blaen o ran technoleg, gan ddefnyddio rhithrealiti i efelychu ysbyty go iawn, a’r sefyllfaoedd y byddai staff a pharafeddygon yn eu profi yn yr adran damweiniau ac achosion brys neu ar y wardiau – rhywbeth na allwch chi ei ail-greu mewn gwerslyfr.”
Ychwanegodd: “Mae’n ganolfan ragoriaeth wirioneddol anhygoel. Mae’r ymateb rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn wedi bod yn fendigedig, mae pobl ar binnau eisiau ymweld â ni. Mae cleientiaid wedi bod mewn cyswllt yn barod i drefnu triniaethau ac er bod hwn yn adnodd ac yn gyfleuster hanfodol ar gyfer addysg, rydw i’n siŵr y bydd yn boblogaidd gydag aelodau ac ymwelwyr a fydd yn gallu ymweld â ni i gael triniaethau am bris cystadleuol.
“Mae Sba Iâl yn drobwynt i’r sector. Mae Coleg Cambria yn parhau i godi’r safon ar gyfer addysg ac yn ei gyfuniad o gefnogi ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol.”
I archebu Cartref – Sba Iâl Wrecsam neu i gael rhagor o wybodaeth am aelodaeth a chynigion arbennig, ewch i’r wefan a dilynwch @ialspawrexham ar y cyfryngau cymdeithasol.
I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol ac ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.