main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

AirbusWorldSkillsUK (1)

Cynhelir y digwyddiad dros dri diwrnod o 14 Tachwedd mewn colegau, lleoliadau darparwyr hyfforddiant annibynnol a phrifysgolion ledled Manceinion Fwyaf, gan gynnwys Rochdale, Salford, Wigan a Leigh, ac Oldham.

Y cynrychiolwyr o Cambria yw:

Cynnal a Chadw Awyrennau – Kieran O’Loan, Jamie Foulkes, Aiden Williams, Henry Ankers, Jack Price, James Donohue (i gyd o Airbus)

Melino CNC – Theodore Philip-Holloway (Tata Steel), Iwan Brewin, Harry Rogers (Magellan Aerospace), Tai Jones (Unimaq)

Weldio – Brandon Nicholson (Fabdec), Zachariah Winn (Kendley Ltd)

Gosod Trydan – Ben Gillin (Lloyd Morris Electrical)

Technegydd Cymorth TG – Koziah Sylvester (Brother Industries UK)

Gwneuthurwr Metel – Jimmy Smith (Kendley Ltd)

Technegydd Seilwaith Rhwydwaith – Joshua Mitchell (Prifysgol Lancaster)

Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu mewn 51 categori sgiliau cyn i enillwyr y medalau gael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog ar 17 Tachwedd yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion.

Ymhlith y rhai sydd wrth eu bodd yn cael cystadlu mae Brandon Nicholson, o Gaerwys, sy’n brentis yn Fabdec yn Ellesmere.

Gyda chefnogaeth y darlithydd Carl Parrish, roedd Brandon yn hyfforddi i fod yn athro ond penderfynodd newid gyrfa a chofrestrodd ar gyfer dosbarth nos mewn weldio ar safle Ffordd y Bers y coleg yn Wrecsam cyn symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 City & Guilds.

“Dwi wedi ei fwynhau’n fawr ac yn edrych ymlaen at WorldSkills UK,” meddai.

“Mae gam yn uwch nag unrhyw beth dwi wedi’i brofi cyn dechrau yn y diwydiant ond dwi’n barod am yr her.”

Ategu’r geiriau hynny roedd Harry Rogers, un o dri dysgwr Cambria a fydd yn cystadlu ymysg yr wyth sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Melino CNC y mis nesaf.

Cafodd y bachgen 17 oed, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Darland, ei ganmol gan Shauna Craig, Rheolwr Academaidd Magellan Aerospace, am fod yn “seren ddisglair” ac yn “ysbrydoliaeth” i brentisiaid eraill y cwmni.

Ychwanegodd Harry: “Dwi’n gobeithio am yrfa hir yn y diwydiant yma, felly mae’n sylfaen wych i adeiladu arni, dwi’n edrych ymlaen.”

Llongyfarchodd y Rheolwr Profiad Dysgwyr a Menter, Rona Griffiths y tîm ar eu “cyflawniad anhygoel”.

“Bob blwyddyn dwi’n rhyfeddu at ymroddiad a sgiliau ein dysgwyr, a chefnogaeth ein partneriaid yn y diwydiant,” meddai.

“Dydi eleni’n ddim gwahanol. Rydych chi’n glod i’r coleg, ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant i chi yn y gystadleuaeth.”

Ychwanegodd Pennaeth Cambria, Sue Price: ““Mae bod ymhlith yr wyth uchaf yn y Deyrnas Unedig ym mhob categori yn gyflawniad gwych yn ei hun, a beth bynnag sy’n digwydd gallan nhw ddweud mai nhw ydy’r gorau yn eu maes.

“Rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw, mae hyn am newid eu bywydau ac mae’r sgiliau y byddan nhw’n eu dysgu yn ystod yr wythnosau nesaf yn barod at y digwyddiad yn cael eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd yn y dyfodol – mae’n gyfle gwych i bob un ohonyn nhw.”

Dymunodd Gweinidog y Deyrnas Unedig dros Sgiliau, Prentisiaethau ac Addysg Uwch, Robert Halfon lwc i’r cystadleuwyr a dywedodd: “Mae WorldSkills UK nid yn unig yn darparu cyfle heb ei ail i hogi eich sgiliau a dringo’r ysgol gyfleoedd at ddyfodol gwell a mwy disglair, ond mae hefyd yn gyfle i ddathlu a hyrwyddo cyrsiau galwedigaethol a’r sector addysg bellach.”

Ychwanegodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen genedlaethol yn wir ysbrydoliaeth ac maen nhw’n dangos y sgiliau sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw ddisgleirio, byddwn ni’n rhannu eu teithiau gyrfa a’u straeon llwyddiant, fel ein bod ni’n gallu ysbrydoli rhagor o bobl ifanc, o bob cefndir, i weld bod prentisiaeth neu addysg dechnegol yn llwybr o’r radd flaenaf at lwyddiant mewn gwaith a bywyd.”

Efallai bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol Rowndiau Terfynol Cenedlaethol eleni yn cael eu gwahodd i ymuno â Rhaglen Datblygu Rhyngwladol WorldSkills y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2026.

Ewch i www.worldskillsuk.org i gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills UK.

Ewch i www.worldskillsuk.org i gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills UK.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost