main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Cafodd y system treuliad anaerobig ei datgelu gan Biofactory Energy a Choleg Cambria Llysfasi, gyda chefnogaeth gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Dyma un o dair menter carbon isel sy’n cael eu hariannu ar y cyd gan grant £500,000 gan Lywodraeth Cymru trwy ei Her Arloesi Ymchwil Busnes System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WBRID).

Cafodd ddau gynhwysydd llong eu trawsnewid yn brototeip ac mae myfyrwyr y coleg wedi eu henwi’n Neli a Gobaith. Maen nhw wedi cael eu paentio’n ddu a gwyn yn debyg i wartheg godro.

Nod hir dymor Biofactory Energy, mewn partneriaeth â darlithwyr a dysgwyr, yw i ffermydd godro leihau allyriadau sy’n dod gyda rheoli slyri gan ddefnyddio technoleg arloesol, ac i’r system ddod yn fasnachol hyfyw ac yn berthnasol i gynifer o ffermwyr â phosib.

Mae Rheolwr y Prosiect George Fisher yn dweud bod diddordeb ac adborth ar draws maes amaethyddiaeth yn tyfu.

“Mae perthnasedd a phwysigrwydd y cynllun hwn wedi atseinio i ffermwyr ledled y Gogledd a thu hwnt, yn rhannol oherwydd bod hyn yn ddatrysiad treuliad anaerobig sy’n gallu ehangu’n gyflym,” meddai George.

“Ers i ni gyhoeddi ein bod ni wedi cadarnhau arian WBRID, mae’r tîm yn Biofactory Energy wedi gweithio’n sydyn ac yn broffesiynol i gyflwyno’r dechnoleg anhygoel yma, a fydd o fudd i ffermwyr godro. Bydd yn werthfawr iawn ar gyfer addysg y myfyrwyr yma yn Llysfasi hefyd.

“Mae’r prosiect yma ymysg sawl datblygiad sydd gennym ni ar y gweill a fydd yn cael effaith fawr ar ddyfodol y diwydiant yng Nghymru, wrth i ni weithio gyda sefydliadau allweddol i gynorthwyo a chyflwyno dulliau newydd a chynaliadwy o ffermio.

“Bydd technoleg Micro-AD (Treuliad Anaerobig) yn trosi allyriadau nwyon tŷ gwydr i ynni a fydd yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd ar y safle, o gynhesu dŵr i oeri a phweru offer i lanhau’r parlwr godro.

“Mae hyn yn gam enfawr ymlaen ac rydyn ni’n gyffrous iawn i weld y canlyniadau.”

Mae Robyn Lovelock, rheolwr rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru, wrth ei bodd yn cael cefnogi’r cynllun ac i weld y system arddangos yn ei lle.

Mae ganddi obeithion mawr am sut allai’r dechnoleg fod o fudd i drigolion a busnesau’r rhanbarth, ychwanegodd hi: “mae treialu datrysiadau sy’n gallu helpu ffermwyr y Gogledd i fodloni targedau sero net y sector yn hanfodol, ac mae’n gyffrous bod Llysfasi yn safle profi ar gyfer technoleg sy’n dod i’r amlwg.

“Mae’r tri busnes o fewn y cynllun WBRID wedi datblygu technolegau arloesol sy’n cynorthwyo llwybrau sero net ac mae ganddyn nhw botensial i fod o fudd i ffermwyr yn economaidd gyda gostyngiadau costau neu amser.

“Gan fod amaethyddiaeth yn chwarae rhan bwysig yn economi Gogledd Cymru, gallai treialu’r technolegau newydd yma helpu i lunio eu datblygiad i sicrhau eu bod nhw’n addas.

“Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn falch o gefnogi Biofactory Energy ar eu taith. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r treialon.”

Mae’r diwydiant godro yn ganolog i Ogledd Cymru, mae’n cyflogi 7% o’r gweithlu ac yn cyfrannu mwy na £370 miliwn at yr economi bob blwyddyn.

Mae dangosyddion neu ‘heriau’ Byw’n Glyfar WBRID Llywodraeth Cymru yn berthnasol i’r egwyddorion sydd wedi’u profi o gynlluniau Menter Ymchwil Busnesau Bach a byddan nhw’n dod â buddion gan gynnwys lleihau allyriadau carbon, arbed ynni a chymorth economaidd busnesau wrth brofi peiriannau, cynnyrch, systemau a phrosesau newydd.

Dywedodd Dewi Jones sef Rheolwr Fferm Llysfasi: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at dreialu’r dechnoleg newydd yma a gweld eu buddion.

“Mae’r syniad o uned Treuliad Anaerobig ar raddfa fach neu ganolig yn apelio i ni oherwydd mae’n bosib ei hail-greu ar sawl fferm ledled Cymru, o’i gymharu ag unedau Treuliad Anaerobig ar raddfa fawr, lle mae’n gallu bod yn ddrud i’w gosod ac felly dim ond ar gael i rai ffermwyr.

“Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni’n croesawu unrhyw beth y gallwn ni ei ddefnyddio i leihau allyriadau ac sy’n helpu’n ariannol, a bydd Llysfasi yn meithrin llawer o ddatblygiadau eraill hefyd er mwyn datgarboneiddio ein cynhyrchiant bwyd yn y dyfodol ar lefel cynhyrchwyr cynradd.”

Ychwanegodd Jon Blake, Prif Swyddog Masnachol BioFactory: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael y cyfle i weithio gyda’r timau yng Ngholeg Cambria Llysfasi, Uchelgais Gogledd Cymru a WBRID ar gyfer datblygiad ein system Fferm Micro-AD.

“Mae’r datblygiad yn Llysfasi yn cynrychioli ymdrechion ardderchog yr holl unigolion a’n peirianwyr, ac rydyn ni’n gyffrous iawn i ddechrau’r gwaith.

“Mae’r system Fferm Micro-AD wedi cael ei dylunio o bersbectif newydd, wrth gynorthwyo’r ymgais i gyrraedd Sero Net yn uniongyrchol ac mae anghenion y ffermwyr ar flaen ein dull o ddatblygu’r dechnoleg gwastraff i ynni arloesol.

“Mae’r system wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer cynorthwyo ffermydd sydd â rhwng 100 a 500 o wartheg, gan roi cyfle iddyn nhw gyrchu’r dechnoleg a dal allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan greu ynni i’w ddefnyddio ar y fferm.

“Mae defnyddio’r bio-nwy i gynhyrchu ynni yn gwneud i ni ddibynnu llai ar bŵer o’r grid ac yn lleihau costau, sy’n berthnasol iawn yn ystod amgylchiadau afreolus y farchnad ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas gyda Llysfasi a gweld rhagor o systemau Micro-AD hyd a lled Cymru.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost