main logo

Neges bwysig am rai o’n llwybrau Bysiau

Mae’r Coleg wedi cael gwybod y prynhawn yma am y cyhoeddiad cyhoeddus na fydd cwmni Townlynx Bus Services yn gweithredu unrhyw wasanaethau cludiant ar ôl heddiw, dydd Gwener 8 Medi.

Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw fysiau cludiant y Coleg a gwasanaethau cludiant cyhoeddus a weithredir gan Townlynx Bus Services yn gweithredu o yfory, dydd Sadwrn 9 Medi 2023 ymlaen.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ein dysgwyr sy’n teithio ar y llwybrau hyn, rydym wedi llwyddo i ymgysylltu â darparwyr amgen ar gyfer y llwybrau hyn ac felly bydd unrhyw ddysgwyr sy’n teithio ar y llwybrau hyn i Goleg Glannau Dyfrdwy yr wythnos nesaf yn gallu gwneud hynny fel arfer.

Bydd y bysiau yn cael eu hadnabod yn glir fel Coleg Cambria – Glannau Dyfrdwy ac yn gweithredu yn unol â’r amserlen a osodwyd.

Bydd ein gwasanaethau cludiant Coleg a weithredir gan gwmnïau bysiau eraill yn parhau i gael eu darparu fel arfer.

Am unrhyw gymorth ynglŷn â chludiant ffoniwch ein Llinell Cludiant y Coleg ar 01978 515 454.

Mae’r llinell ffôn hon (ar gael 7am – 9am a 4pm – 6.30pm – dydd Llun i ddydd Gwener).