main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

TilhillCambria (1)

Mae Tilhill, un o brif gwmnïau rheoli coedwigoedd, cynaeafu coed a thirlunio’r DU, a’r cwmni Foresight Sustainable Forestry, wedi datgelu rhaglen hyfforddi newydd, Rhaglen Hyfforddi Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight.

Mae’r cwrs wedi ei anelu at ymgeiswyr o Dde Cymru a fydd yn cael tair wythnos o hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn yn ystod mis Awst, Medi a Hydref yng Ngholeg Cambria Llysfasi.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys ystod o weithgareddau sy’n ymwneud â choedwigaeth fel plannu coed, gyrru beic cwad, sgiliau llif gadwyn sylfaenol, hyfforddiant cymorth cyntaf a nifer o weithgareddau eraill.

Dywedodd David Edwards, Cyfarwyddwr Coedwigaeth Tilhill, “Mae’n bleser mawr gennym allu cynnig y cyfle cyffrous hwn i ymuno â Rhaglen Hyfforddi Sgiliau Coedwigaeth Gynaliadwy Foresight. Mae’n gyfle i ni gyfrannu tuag at annog pobl i ail-lunio dyfodol ein hamgylchedd a’r diwydiant coedwigaeth.”

“Nid oes angen unrhyw hyfforddiant, profiad na chymwysterau blaenorol er mwyn gwneud cais. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr wedi’u lleoli yn Ne Cymru sy’n llawn cymhelliant, wedi’u hysgogi, yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn hyblyg.”

“Byddai’r hyfforddiant hyn yn berffaith i unrhyw un ym maes amaethyddiaeth, ffermio neu mewn swyddi contractio neu ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dechrau gyrfa yn y sector coedwigaeth.”

Mae’r cwmni Foresight Sustainable Forestry, yn buddsoddi cynlluniau coedwigaeth a choedwigo yn y DU ac yn canolbwyntio’n bennaf ar gynyddu cyflenwad coed cynaliadwy.

Mae eu cynlluniau coedwigaeth yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac yn erbyn dirywiad bioamrywiaeth.

Meddai Richard Kelly, Cyd-arweinydd y cwmni Foresight Sustainable Forestry,: “Bydd y fenter yn helpu cymunedau ffermio i addasu i’r newidiadau mewn defnyddio tir sy’n gysylltiedig â choedwigo. Bydd yn darparu’r sgiliau, hyfforddiant, cymwysterau a’r cyfarpar diogelwch sydd eu hangen ar aelodau o’r gymuned leol er mwyn cael hyd i waith yn y sector coedwigaeth.”

Am ragor o newyddion a gwybodaeth o Goleg Cambria Llysfasi, ewch i www.cambria.ac.uk

Ewch i www.tilhill.com i gael gwybod rhagor am Tilhill.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost