Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

DSC_2064

Mae’r cerflun sydd wedi’i greu â llaw, yn dangos draig yn amddiffyn plentyn bach. Mae’n cynrychioli creadigrwydd a thosturi’r gymuned, ac yn symbol trawiadol yn erbyn troseddu ag arfau.

Gwnaeth cam olaf y prosiect – a gafodd ei ddatgelu yn ystod Ymgyrch Sceptre, wythnos genedlaethol troseddu â chyllyll. Cafodd plinth o garreg Gymreig ei osod, gan ffurfio sylfaen castell gydag “afon o gyllyll”, gan gwblhau plât enw, carreg, a phileri cadwyn.

Pan gaiff y cerflun ei oleuo yn y nos mewn coch, gwyn, a gwyrdd, lliwiau cenedlaethol Cymru, mae’r cerflun yn sefyll yn gadarn i’n hatgoffa ni o’r effaith y gall troseddu â chyllyll ei chael ar unigolion, teuluoedd, a chymunedau.

Cafodd y Ddraig Gyllyll sydd wedi’i henwi’n ‘JohnFree’ gan staff a myfyrwyr, ei dylunio a’i harwain gan John Freeman, darlithydd yn y coleg, a dreuliodd oriau y tu hwnt i’w ddyletswyddau addysgu gan siapio arfau wedi’u hatafaelu yn gelf.

Cafodd cyllyll cegin, cleddyfau samurai, dyrnau haearn, a bidogau – eu digomisiynu a’u casglu’n ddiogel gan Heddlu Gogledd Cymru – eu weldio ar fframiau dur i ffurfio corff a phen y ddraig.

Wedi’i hadeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru, erbyn hyn mae’r prosiect wedi’i orffen ac yn sefyll fel tystiolaeth o bŵer addysg a chydweithio wrth fynd i’r afael â materion cymdeithasol.

Dywedodd Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol Sefydliad Technoleg ac Arweinydd Safle Ffordd y Bers: “Mae’r ddraig yn hollol syfrdanol. Bydd yn symbol nid yn unig ar gyfer ymwybyddiaeth o gyllyll ond hefyd ar gyfer doniau a sgiliau’r myfyrwyr a gymerodd rhan yn ei hadeiladu, lle’r oedd iechyd a diogelwch yn brif flaenoriaeth o’r cychwyn cyntaf.

“Bydd y cerflun yn cymryd ei le’n falch yma yn Ffordd y Bers, yn symbol i genedlaethau’r dyfodol ac wedi’i wneud yn gyfan gwbl o arfau a gasglwyd gan Heddlu Gogledd Cymru trwy amnest neu atafaeliad.

“Mae miloedd wedi cael eu defnyddio ar gyfer y Ddraig Gyllyll ac mae’n eithaf syfrdanol pan fyddwch chi’n adfyfyrio ar hynny, mae’n cyfleu neges bwysig iawn.”

Ychwanegodd y Sarjant Diogelwch Cymunedol Claire Parry o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae pob cyllell sy’n cael ei chymryd oddi ar y strydoedd yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Nid ydy cario cyllell yn eich amddiffyn chi, mae’n eich rhoi chi mewn mwy o berygl o niwed. Rydyn ni eisiau i bobl feddwl ddwywaith, gwneud y dewis cywir, a rhoi unrhyw gyllyll neu arfau diangen i ni.

“Gyda’n gilydd, gyda’n partneriaid a’n cymunedau, gallwn ni stopio cyllyll rhag difetha ein bywydau.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaeth a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Mae nifer y troseddau cyllyll yn Wrecsam yn dal yn gymharol isel, ac mae achosion o feddu ar gyllell wedi lleihau o flwyddyn i flwyddyn.

“Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo fel grŵp i gynnal nifer isel o droseddau cyllyll, yn ogystal â gweithio tuag at leihau troseddau cyllyll.”

Croesawodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, y cerflun terfynol hefyd, a dywedodd: “Mae gweithiau celf fel hyn yn atgof pwerus o’r peryglon a’r trasiedïau a achosir gan droseddau cyllyll. Maen nhw’n helpu i ganolbwyntio a chodi ymwybyddiaeth ymhlith y gwylwyr.

“Mae Ymgyrch Sceptre yn cael ei gynnal yr wythnos yma hefyd, sef wythnos genedlaethol gweithredu yn erbyn troseddu â chyllyll mewn plismona. Nod yr ymgyrch ydy codi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll a gweithgaredd yr heddlu wrth eu canfod, eu lleihau a’u hatal nhw.

“Mae troseddu â chyllyll yn parhau i fod yn isel yn Wrecsam ac ar draws Gogledd Cymru, diolch byth. Er hynny, mae’n bwysig i ni i gyd weithredu i’w lleihau nhw ymhellach fyth.”

Mae’r Ddraig Gyllyll yn sefyll nid yn unig fel cyflawniad artistig ond hefyd fel goleudy o obaith, gan drawsnewid ofn a thrais yn neges o undod, diogelwch a balchder Cymreig.

I weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am droseddau â chyllyll, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Fel arall, ewch i www.fearless.org/ên/give-info.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost