Prif Swyddog Gweithredu’r Is-gyfarwyddiaeth

Gweithrediadau Masnachol

Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.

Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Claire Talbot
Rheolwr Meithrinfa

Claire Talbot

Ymunodd Claire â’r coleg yn 2009 fel asesydd gofal plant. Ers hynny mae hi wedi symud ymlaen i wneud sawl swydd wahanol, gan gynnwys Ymarferydd Arweiniol o fewn y tîm Dysgu yn y Gwaith (DYYG) ac ym mis Gorffennaf 2025 fe ddechreuodd Claire ar ei swydd fel Rheolwr Meithrinfa Toybox ar safle Glannau Dyfrdwy.

Mae Claire wedi ymrwymo i ddarparu gofal ac addysg o’r safon uchaf. Mae hi hefyd wedi chwarae rôl mewn addysg a hyfforddiant gan gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol o ymarferwyr gofal plant ledled Cymru. Gyda llawer o brofiad mewn amryw o sefydliadau gofal plant mae Claire yn gallu cyfrannu dealltwriaeth ymarferol ac eang o ddatblygu blynyddoedd cynnar i’w gwaith.

Dysgwch ragor

Matthew Alexander
Rheolwr Bwyty

Restaurant Manager, Matt Alexander

Ar ôl dechrau’i yrfa yn gweithio mewn siop fferm yn 17 oed, aeth Matt ymlaen i wneud enw iddo’i hun yn Horseradish Catering yng nghae ras Caer, lle cododd drwy’r rhengoedd i fod yn arweinydd gweithredol yn 2015. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bu Matt yn arwain tîm rheoli arlwyo a groesawai ymhell dros filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, ar draws sawl lleoliad. Ymunodd Matt â’r coleg yn gynnar yn 2021. Mae gan Matt brofiad lletygarwch helaeth yn sgil rheoli mewn lleoliadau sy’n cynnwys bwytai, undebau myfyrwyr, canolfannau cynadledda a gwestai.

Dysgwch ragor

Sarah Edwards
Rheolwr Gwallt a Harddwch Masnachol

Commercial Hair & Beauty Manager, Sarah Edwards

Mae Sarah wedi gweithio i’r Coleg ers 2012. Mae hi’n rheolwr salon profiadol, ac roedd yn arfer gweithio fel rheolwr sba ac mewn sbas moethus pen ucha’r farchnad ledled y wlad. Mae gan Sarah hanes o weithio ym maes rheoli addysg ac mae ganddi sgiliau rhagorol mewn asesu, sicrhau ansawdd mewnol, annog a datblygu dysgwyr. Mae Sarah yn fentor addysgu a dysgu yn y Coleg hefyd. 

Dysgwch ragor

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost