Home > Myfyrwyr Newydd 25/26 > Gwybodaeth Groeso > Newidiwch, Peidiwch Gadael
Ydych chi'n poeni eich bod wedi dewis y cwrs anghywir?
Rydyn ni’n deall fod pobl yn newid eu meddyliau ac mae hynny’n iawn gennym ni.
Os wnaethoch chi ddechrau eich cwrs ym mis Medi ond ar ôl ychydig wythnosau, yn sylwi nad yw’r cwrs yn addas i chi, peidiwch â phoeni.
Mae gennych chi tan 3 Hydref i newid eich cwrs!
Dysgwch sut i newid eich cwrs isod.
Peidiwch â phoeni
Mae hyn yn digwydd i nifer o ddysgwyr ac rydyn ni yma i'ch helpu chi.
Siaradwch â'ch Anogwr Cynnydd neu'r Gwasanaethau Myfyrwyr
Byddwch yn cael eich cyflwyno i'ch Anogwr Cynnydd yn ystod yr wythnos ymsefydlu. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich Anogwr Cynnydd, yna mae'n iawn, fe wnawn ni eich helpu chi. Galwch heinio'r Gwasanaethau Myfyrwyr (maent wedi'u lleoli yn y brif dderbynfa) ar safle eich coleg a gofynnwch am siarad ag aelod o'r tîm am Newidiwch, peidiwch gadael.
Eglurwch eich sefyllfa a'r ffaith eich bod yn teimlo eich bod wedi dewis y cwrs anghywir a'ch bod am newid
Mae hyn yn digwydd drwy'r amser felly does dim byd i boeni amdano mewn gwirionedd. Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr cyfeillgar yno i'ch helpu i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Rydyn ni'n hyderus bod gennym ni rywbeth i bawb yng Ngholeg Cambria.