Croeso cynnes iawn i Goleg Cambria! Yma, fe ddewch o hyd i gyfleusterau rhagorol, technoleg arloesol, a staff arbenigol ysgogol sy’n ymroddedig i’ch llwyddiant. Rydym yn cael ein cydnabod am ein harloesedd a’n harfer gorau sy’n mynd ati i annog pob dysgwr trwy ein dull tra chynhwysol, i astudio mewn amgylchedd lle cewch eich cefnogi i wneud eich gorau glas.
Rydym yn deall y gallai symud o ysgol lai i goleg mwy fod yn brofiad eithaf brawychus, ond gallwch fod yn sicr y byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. Rydym yn ymfalchïo’n fawr nid yn unig yn ein haddysg o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth a’n cymorth ymroddedig yn y dosbarth, ond hefyd yn y gofal bugeiliol eithriadol a ddarperir gan eich Anogwr Cynnydd personol, gan sicrhau eich bod yn ffynnu drwy gydol eich rhaglen.
Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, rydym wedi ehangu ein cymorth hollgynhwysol sylweddol i’ch helpu i gyflawni eich nodau. Mae hyn yn cynnwys cymorth wedi’i deilwra ar gyfer eich anghenion unigol gan ein tîm iechyd a llesiant ymroddedig a’n hanogwyr gwydnwch. Mae cofleidio ymddygiadau cadarnhaol, cynhwysiant, a pharch o’r ddeutu yn hanfodol i gymuned ein coleg, ac rydym yn hyrwyddo’r gwerthoedd hyn ym mhopeth a wnawn. Cewch hefyd fynediad at ystod eang o weithgareddau chwaraeon a llesiant am ddim trwy ein rhaglen Cambria Heini, yn ogystal â nifer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn clybiau amrywiol a dweud eich dweud trwy fentrau Llais Myfyrwyr.
Er mwyn eich helpu i ddechrau pob diwrnod yn gadarn a dal i ganolbwyntio, gall ein myfyrwyr i gyd fwynhau brecwast am ddim ym mhrif ffreuturau’r coleg ym mhob safle!
Ein nod yn y pen draw yw eich arfogi â’r sgiliau a’r cymwysterau hanfodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus ar ôl i chi adael y coleg, os ydych yn bwriadu mynd ymlaen i astudio mewn prifysgol, ymgymryd â phrentisiaeth, neu gychwyn ar yrfa foddhaol. Rydym yma i’ch cefnogi i adeiladu nid yn unig eich cyflawniadau academaidd ond hefyd yr ymddygiadau cadarnhaol a’r parch a fydd o gryn fudd i chi ym mhob agwedd ar fywyd.
Sue Price
Pennaeth
Coleg Cambria
Cawsom ein sefydlu yn 2013 ac ers hynny rydym wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan amser a nifer o gysylltiadau rhyngwladol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser a rhan amser ar draws ein deg safle gan gynnwys, Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch. Mae’r coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 1,000 o gyflogwyr lleol a chenedlaethol hefyd i’ch helpu i ennill cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Creu dyfodol mwy disglair trwy ragoriaeth mewn addysg wrth feithrin sgiliau a gwybodaeth dechnegol mewn amgylchedd cefnogol ac arloesol.
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.
Dangos gonestrwydd ac uniondeb
Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi
Bod yn garedig a chefnogol
Gweithio gydag eraill
Teimlo'n gyfartal a chynhwysol
Bod yn gymuned
Bod yn rhagorol ac ysbrydoledig
Annog ac ysgogi
Bod yn frwdfrydig
Bod yn arloesol
Mae’r Uwch Dîm Arwain yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn hynod angerddol am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel arweinwyr datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Dechreuodd Yana swydd Prif Swyddog Gweithredol (CEO) yn Cambria ym mis Ionawr 2020. Cyn hyn roedd hi’n Bennaeth ac yn Brif Swyddog Gweithredol yng Ngholeg Hugh Baird yn Lerpwl am 8 mlynedd. Mae Yana wedi bod yn rhan o gefnogi’r sector Addysg Bellach ar draws nifer o gyrff lleol a chenedlaethol ers blynyddoedd lawer. Wedi’i magu yng Ngogledd Cymru, aeth Yana i’r ysgol yn yr Wyddgrug ac yna ymlaen i Brifysgol Caerdydd.
Mae Steve wedi gweithio yn Cambria ers 1994 ac mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad fel uwch arweinydd. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain prosiectau strategol allweddol, cyflawni strategaeth ystad uchelgeisiol a sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gael i gyflawni amcanion strategol Cambria. Mae Steve yn ceisio dod â gweledigaeth, ysgogiad, profiad a gwelliannau ar draws y Gwasanaethau Corfforaethol a Masnachol. Mae wedi’i hyfforddi’n broffesiynol fel cyfrifydd siartredig.
Mae Caroline yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, gyda bron i 30 mlynedd o brofiad mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys Cludiant, Gweithgynhyrchu ac Addysg. Ymunodd â Cambria ym mis Ionawr 2025 ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol, Cymorth Busnes a Myfyrwyr yng Ngholeg Hopwood Hall ym Manceinion Fwyaf. Mae Caroline yn gyfrifol am swyddogaethau Adnoddau Dynol, Marchnata, Derbyniadau a Digidol, Gwasanaethau Dysgwyr a Chanolfannau Adnoddau Dysgu ac mae ganddi uchelgeisiau mawr ar gyfer Myfyrwyr a Chydweithwyr y coleg a Cambria fel lle gwych i astudio a gweithio.
Ymunodd Sue â Cambria fel Pennaeth yn 2016. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Bellach ar ôl gweithio mewn sawl coleg yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae Sue hefyd wedi gweithio yn y Gwasanaeth Sifil yn y Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol a’r Asiantaeth Ariannu Sgiliau. Mae gan Sue gefndir academaidd a galwedigaethol, mae wedi’i hyfforddi’n athrawes ac mae ganddi radd Meistr mewn Rheolaeth Addysgol.