Home > Canolfan Brifysgol > Gweld Pob Maes Pwnc > E-chwaraeon
E-chwaraeon
E-chwaraeon
Gyda e-chwaraeon yn prysur ddatblygu’n ffenomenon byd-eang mae astudio yng Chanolfan Brifysgol Cambria (CBC) yn rhoi’r cyfle i chi fod yn rhan o’r diwydiant cyffrous a chystadleuol hwn.
Mae ystod eang o gyfleoedd gyrfaol amrywiol, cyffrous a gwerth chweil ar gael i chi mewn sawl sefydliad lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae gyrfa ym myd e-chwaraeon yn gofyn i chi ddatblygu nifer o sgiliau, fel sgiliau arwain, datrys problemau, meddwl yn strategol, cyfathrebu, gwaith tîm, a sgiliau dadansoddol.
Bydd eich tiwtoriaid yn addysgu’r sgiliau a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer y byd e-chwaraeon sy’n ddynamig ac yn symud yn gyflym. Byddwch yn cael cyfleoedd i ymarfer y sgiliau hyn yn ystod eich amser ar y cwrs.
Pa Gyrsiau Sydd Ar Gael
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Ymweld â'n Galeri
Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.